ADEILAD FARADAY A THALBOT
Mae gan Adeilad Faraday ystafelloedd addysgu a darlithfeydd mawr, labordai ymchwil a labordai cyfrifiaduron. Mae'r adeilad wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar i wella cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr.
Mae Tŵr Faraday yn gartref i Undeb y Myfyrwyr a'i chwe swyddog amser llawn etholedig sydd ar gael bob dydd ac yn cynrychioli gwahanol agweddau ar gylch gorchwyl yr Undeb. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio ar gampws y Bae a Champws Parc Singleton, gan reoli pedair siop, tri bar ac mae hefyd yn cynnal dros 280 o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr bob blwyddyn.
Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gyfrifol am dros 100 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau, gan amrywio o Amnest Rhyngwladol, clwb trafod a chymdeithasau penodol i bynciau, i chwaraeon megis rygbi, nofio, codi hwyl a ffrisbi eithafol sydd bob amser yn boblogaidd, i gymdeithasau ar gyfer y rhai sy'n angerddol am faes penodol megis 'Disney' a ffasiwn. Mae rhagor o wybodaeth am ein clybiau a'n cymdeithasau ar gael ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Yn Faraday hefyd, byddwch yn dod o hyd i'r Ganolfan Cyngor a Chymorth sy'n cael ei rheoli gan Undeb y Myfyrwyr a thîm o gynghorwyr hyfforddedig i ddarparu cyngor a chynrychiolaeth cyfrinachol a diduedd am ddim. Gallant eich helpu gyda nifer o faterion cyfreithiol a phersonol, gan gynnwys arian, lles, materion academaidd, tai, ac anawsterau iechyd meddwl.
Mae Tîm EWCH YN FYD-EANG yn gweithio yn adeilad Talbot hefyd. Mae Tîm Ewch yn Fyd-eang, sy'n rhan o'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, yn helpu myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe i achub ar nifer o gyfleoedd dramor. Mae hyn yn cynnwys blwyddyn neu semester dramor, yn astudio yn un o'n prifysgolion partner neu'n cwblhau lleoliad gwaith neu leoliad cynorthwy-ydd addysgu. Bydd y cyfleoedd sydd ar gael yn dibynnu ar eich maes pwnc. Mae'r tîm hefyd yn cynorthwyo myfyrwyr a hoffai gael profiad gwirfoddoli, diwylliannol neu academaidd yn ystod yr haf, drwy amrywiaeth o raglenni rhyngwladol sy'n agored i fyfyrwyr ar bob cynllun gradd. Mae manylion llawn ar gael ar-lein yn ar dudalen we Ewch yn Fyd-eang, ynghyd â gwybodaeth am y cyllid a'r cymorth sydd ar gael. Wrth i chi adael Adeilad Faraday, bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin a'r Ganolfan Eifftaidd ar eich chwith.