Manylion am yr Ymchwil
ADRAN/MAES PWNC: Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
GORUCHWYLIWR(WYR): Yr Athro Tom Cheesman, Dr Bob Laramee
YMGEISYDDIAETH RADD YMCHWIL: PhD
TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL: Design, compilation and applications of an English-Polish-Belarusian Parallel Literary Corpus
Crynodeb o'r Ymchwil
Prif nod y prosiect yw creu'r Corpws Llenyddol Cyfochrog Saesneg-Pwyleg-Belarwseg a chyflwyno ei gymwysiadau mewn disgyblaethau ieithyddol amrywiol, megis astudiaethau cyfieithu a dadansoddi disgwrs.
Mae'r traethawd ymchwil yn amlinellu ymchwil i ieithyddiaeth gorpws ynghyd ag ieithyddiaeth gorpws fel methodoleg, ac mae hefyd yn mynd i'r afael â phroblem y gwahaniaethau wrth ddatblygu ieithyddiaeth gorpws yn y tair iaith: Saesneg (y cyfeirir ati fel lingua franca), Pwyleg (iaith genedlaethol statudol) a Belarwseg (iaith leiafrifol).
Mae rhan sylweddol o'r traethawd ymchwil yn cynnwys dogfennaeth o'r broses o greu'r corpws. Cyflwynir agweddau amrywiol ar ddylunio'r corpws a chasglu ac amgodio testunau yng nghyd-destun argaeledd a defnyddioldeb offer amrywiol.