Manylion am yr Ymchwil
ADRAN/MAES PWNC - Hanes/Hanes Modern Cynnar Prydain
GORUCHWYLIWR(WYR) - Yr Athro John Spurr, Dr Regina Poertner
GRADD YMCHWIL (PhD/M.Phil/MA drwy Ymchwil) - PhD
TEITL Y TRAETHAWD - The Rational Apocalypse of the Latitudinarians in Seventeenth-Century England
Crynodeb o'r Ymchwil
Mae fy nhraethawd ymchwil PhD yn canolbwyntio ar syniadau apocalyptaidd y rhydd-dybwyr y meddyliwyd bod eu diwinyddiaeth gymedrol a rhesymol yn rheng flaen eu heglwyseg. Mae'n ddiddorol bod pryderon rhagluniaethol y rhydd-dybwyr wedi'u mynegi yng nghyd-destun eu dealltwriaeth ddiwiniaethol o faterion crefyddol a hanes pobl. Mae eu ffordd o ddehongli'r datguddiad hefyd yn datgelu rhan o hanes o syniadau sydd heb ei hymchwilio'n helaeth gan haneswyr modern.
Diben yr astudiaeth hon, felly, yw ymdrin â syniadau rhagluniaethol y rhydd-dybwyr mewn perthynas â'r galw cynyddol am ymresymu rhesymegol mewn sawl ffordd: gwrth-Gatholigiaeth, y gobaith am y wir Eglwys Anglicanaidd a'r teyrn duwiol a chynnydd rhagluniaethol natur pobl. Mae ymchwilio'n agos i waith yr Eglwyswr hyn yn helpu i ddangos a gwerthuso eu hymdrechion i ymgorffori syniadau newydd yn yr hyn roeddent wedi'i dybio yn eu ffordd eu hunain.
Cyhoeddiadau
‘Rethinking John Locke’s Religious Toleration: in the Context of Religious Debates in England in the 1660s and 1670s,’ The Korean Journal of British Studies 30 (2013), tudalennau. 1-32.