Manylion am yr Ymchwil
Maes Pwnc: Hanes a'r Cyfryngau
Goruchwyliwr: Dr Gethin Matthews (Hanes) a Dr Elain Price (y Cyfryngau).
Gradd Ymchwil: PhD
Teitl y traethawd ymchwil: Portreadu Cymru a'r Rhyfel Mawr: Portreadau o Gymru a'r Cymry mewn rhaglenni dogfen am y Rhyfel Byd Cyntaf
Crynodeb o'r Ymchwil
Mae fy ngwaith ymchwil yn dadansoddi rhaglenni dogfen Cymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf o'r 1960au hyd at ddiwedd y canmlwyddiant yn 2018.
Mae'n ystyried sut caiff cyfraniad Cymru a'r Cymry ac effaith y rhyfel ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru eu portreadu mewn rhaglenni dogfen. Mae hefyd yn ystyried y ffyrdd y mae profiadau'r Cymry o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn wahanol i brofiad gweddill Prydain o'r rhyfel, a'r ffordd y mae'r rhaglenni dogfen wedi newid o ran strwythur a chyflwyniad.