Croeso i'r Ganolfan Ymchwil Iaith (CYI)
Mae'r Ganolfan Ymchwil Iaith (CYI) yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer ymchwil empirig unigol, rhyng ac aml-ddisgyblaethol i ddata a phrosesau iaith. Mae'n tynnu ysgolheigion ac ymchwilwyr ôl-radd ar draws Prifysgol Abertawe at ei gilydd ac mae'n cysylltu eu gweithgareddau nhw â gweithgareddau rhwydwaith byd-eang y Ganolfan o gydweithredwyr, partneriaid ymchwil a myfyrwyr doethuriaeth dysgu o bell.
Prif genhadaeth y Ganolfan Ymchwil Iaith yw hwyluso ymchwil gymhwysol arloesol gyda thraweffaith fawr ar draws ystod o beuoedd (addysg, llywodraeth, iechyd, diogelwch, polisi iaith, cyfieithu etc) a phersbectifau (geirfaol, morffogystrawennol, disgyrsiol, arddulliadol, cyfrifiadurol, hanesyddol etc).
Mae'r Ganolfan Ymchwil Iaith yn cwmpasu ystod eang o feysydd sy'n canolbwyntio ar y cyd ar ymchwil gymhwysol i iaith. Mae'r rhain yn cynnwys Caffael Ail Iaith, Dysgu Iaith â Chymorth Cyfrifiadur, Seicoleg Wybyddol Iaith, Dadansoddi Disgwrs, Pragmateg, Sosioieithyddiaeth, Ieithyddiaeth Hanesyddol, Addysgu ac Asesu Iaith, Astudiaethau Geirfaol, Morffoleg a Seicoieithyddiaeth.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Iaith yn gartref i nifer o brosiectau ymchwil, ysgolheigion ar ymweliad a myfyrwyr PhD ac mae'n cynnal seminarau a gweithdai ymchwil yn rheolaidd. Mae pum Grŵp Ymchwil arbenigol yn y Ganolfan Ymchwil Iaith: Ieithyddiaeth Gymhwysol a'r Gymraeg; Astudiaethau Geirfaol; Diogelwch, Diogelu a Phlismona; Cyfieithu; Caffael Ail Iaith ac Addysgu Ieithoedd.