Sefydlwyd y Ganolfan Astudiaethau Cymharol Portiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America (CEPSAM) o ganlyniad i ddiddordebau ymchwil ac addysgu ymhlith cydweithwyr mewn sawl adran ym Mhrifysgol Abertawe yn dod at ei gilydd, gan gynnwys Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Hanes, Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, Cymraeg, Addysg a Biowyddorau.
Mae CEPSAM yn rhan o Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe ond mae’n ffocws rhyngddisgyblaethol. Mae CEPSAM yn cynnig goruchwyliaeth i fyfyrwyr MA a PhD mewn pynciau sy'n gysylltiedig ag Astudiaethau America Ladin, Sbaenaidd neu astudiathau Lusophone. Mae goruchwyliaeth ar gael yn Saesneg, yn Gymraeg, yn Gatalaneg, yn Bortiwgaleg ac yn Sbaeneg (gan ddibynnu ar y pwnc). Cynigir goruchwyliaeth gydweithredol o brosiectau ymchwil gan aelodau prifysgolion gwahanol yng Nghymru hefyd. Edrychwch ar Hyb Portiwgaleg-Sbaenaidd Cymru ar gyfer diddordebau ymchwil unigol ar draws y chwe phrifysgol yng Nghymru sy'n bartneriaid inni.