Prif nod y grŵp yw hyrwyddo a chefnogi ymchwil, addysgu a hyfforddiant sy’n perthyn yn fras i feysydd astudiaethau diwylliant materol a thirwedd, yn enwedig pan fydd y rhain yn berthnasol i'r henfyd.
Mae tri phrif llinyn cydgysylltiedig i'n cenhadaeth:
Ymchwil: | Bydd y grŵp yn cynnig fforwm rhyngadrannol a rhyngddisgyblaethol i staff academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig ar lefelau MA a PhD y mae eu hymchwil yn berthnasol i ddiwylliant materol a thirwedd. Bydd cwmpas y meysydd ymchwil yn amrywio ond, ar hyn o bryd, mae'n cynnwys archaeoleg, gwyddoniaeth archeolegol, astudiaethau/gwyddor amgueddfa, hanes yr henfyd ac addysgeg. Nid yn unig y mae'r grŵp yn ymchwilio i ideolegau sy'n gysylltiedig â gwerth ac ystyr diwylliannol arteffactau, y dirwedd naturiol ac adeiledig, mae hefyd yn ymdrin â thechnolegau sefydledig ac sy'n dod i'r amlwg er mwyn deall eu natur faterol. Mae cwmpas daearyddol a chronolegol diddordebau ymchwil y grŵp yn eang ac yn amrywio o'r Swdan i Cyprus, ac o oes cynhanes i'r oes fodern. |
---|---|
Addysgeg: | Mae ymchwil ragorol yn bwydo i ymarfer addysgu rhagorol: Un o brif nodau OLCAP yw cysylltu ymchwil a wneir gan aelodau'r grŵp ag arfer gorau dysgu mewn ysgolion, sefydliadau Addysg Uwch ac amgueddfeydd. Ar yr un llaw, golyga hyn hyrwyddo addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil am wrthrychau a thirweddau; ar y llaw arall, mae'n cynnwys ymgymryd ag ymchwil i ddulliau addysgol o addysgu gan ddefnyddio gwrthrychau yn ogystal â delweddu ac addysgu am dirweddau |
Hyfforddiant a Chyflogadwyedd: | Nid yn unig y mae angen seiliau damcaniaethol mewn gyrfaoedd ym maes ymchwil archeolegol a hanesyddol, ond mae angen hefyd amrywiaeth eang o alluoedd i ymdrin yn ymarferol â mathau gwahanol o ddiwylliant materol a thirweddau. Ar hyn o bryd, nid yw cyfleoedd o'r fath yn rhan o addysgu israddedig nac ôl-raddedig ac nid ydynt yn rhan o set sgiliau ein myfyrwyr. Bydd OLCAP yn diwallu'r angen hwn drwy gynnig cyfleoedd hyfforddiant am ddim i'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig mewn sgiliau ymchwil craidd pwnc penodol. Yn ogystal, bydd ein seminarau bach rheolaidd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr wella sgiliau cyflwyno a chyfathrebu. |