Datgelu a Chyfrinachedd
Nid yw bob amser yn hawdd rhoi gwybod i bobl eraill am eich anabledd neu'ch cyflwr meddygol. Does dim rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth am eich anabledd neu'n cyflwr meddygol; eich penderfyniad chi yw rhannu'r wybodaeth hon ai peidio.
Gallwch ddatgelu anabledd ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau, ond rydym yn eich annog yn gryf i ddatgelu'ch anabledd neu'ch anhawster dysgu penodol cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn galluogi staff y Brifysgol i ddarparu cymorth a chefnogaeth sy'n briodol i'ch anghenion unigol.
Pryd bynnag y byddwch chi’n penderfynu rhoi gwybod i ni am eich anabledd neu’ch cyflwr meddygol, bydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr wrth law i gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad.
Os ydych chi’n rhoi gwybod i ni am eich anabledd neu eich cyflwr meddygol, yna byddwn ni’n cadw’r wybodaeth honno’n gyfrinachol yng nghofnodion y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Ni fyddwn yn datgelu'ch anabledd i staff eraill yn y Brifysgol heb eich caniatâd. Yr unig eithriad i'r rheol hon yw lle byddwch chi neu bobl eraill mewn perygl ac nid oes gennym unrhyw ddewis ond cyflawni ein dyletswydd gofal.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch Datganiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.