Rydym yn deall pan fydd rhywun yn gadael gartref ac yn dechrau yn y Brifysgol gall fod yn amser ansicr i bawb dan sylw, yn enwedig y rhai hynny ag anableddau iechyd meddwl, anabledd, cyflwr meddygol hirdymor neu anawsterau dysgu penodol.
Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig llawer o wasanaethau i gefnogi ein myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, a'u paratoi ar gyfer bywyd wedi hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol ym Mhrifysgol Abertawe.
Os ydych yn poeni
Os ydych yn poeni, fe'ch anogwn i siarad yn uniongyrchol â'r myfyriwr a rhannu'r gwasanaethau niferus rydym yn eu cynnig â nhw. Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Lles ei Gyfadran, ond noder bod rhaid i'r Gyfadran gael caniatâd y myfyriwr i drafod ei gofnod.
Mewn argyfwng
Ewch i'r dudalen we Cael Cymorth yn ystod Argyfwng os oes gennych bryderon.