Os wyt ti'n credu bod angen cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnat ti, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr.
Ar ôl adolygu dy ffurflen, byddwn ni'n cysylltu â thi er mwyn rhoi cyngor i ti ar y camau nesaf.
Y ffordd orau o gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw drwy e-bost gan fod hyn yn ein galluogi i gyfeirio ymholiadau i'r tîm cywir yn rhwydd: wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Y ffordd orau o gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw drwy e-bost gan fod hyn yn ein galluogi i gyfeirio ymholiadau i'r tîm cywir yn rhwydd.
Sylwer nad ydym ar agor ar wyliau banc.
Os hoffech gysylltu â gweinyddwyr ein gwasanaeth, gallwch ffonio 01792 295592. Mae ein llinellau ffôn ar agor:
Dydd Llun | 09:00 - 13:00 | 14:00 - 16:00 |
Dydd Mawrth | 09:00 - 13:00 | 14:00 - 16:00 |
Dydd Mercher | 09:00 - 13:00 | 14:00 - 16:00 |
Dydd Iau | 09:00 - 13:00 | 14:00 - 16:00 |
Dydd Gwener | 09:00 - 13:00 | 14:00 - 16:00 |
Peidiwch â ffonio aelodau staff unigol yn uniongyrchol oni bai bod hyn wedi’i drefnu ymlaen llaw gan y gall hyn amharu ar apwyntiadau. Ni all ein gweinyddwyr drosglwyddo galwadau ffôn chwaith, am yr un rheswm hwn. Os oes angen i chi gysylltu ag aelod penodol o staff, anfonwch e-bost atom a byddwn yn sicrhau y caiff eich ymholiad ei anfon ymlaen.