Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin wrth galon Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.
Mae'r Taliesin yn cynnal rhaglen helaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys drama, dawns draddodiadol a chyfoes a theatr gorfforol, cerddoriaeth y byd, jas a "fusion", yn ogystal â dangos ffilmiau a darllediadau byw.
Mae'r Taliesin yn elfen allweddol o seilwaith celfyddydol yr ardal; fel man cyfarfod ar gyfer myfyrwyr, staff a'r cyhoedd, ac fel trefnydd digwyddiadau megis yr ŵyl dawns flynyddol, Dyddiau Dawns, sy'n digwydd ar draws y ddinas.
Cerddoriaeth
Cynhelir Prifysgol Abertawe cyfoeth o dalent gerddorol ymhlith ein myfyrwyr, a chymdeithasau cerddoriaeth. Côr cymysg yw'r Gymdeithas Gorawl, sy'n perfformio repertoire sy'n rhychwantu cerddoriaeth glasurol a phoblogaidd; mae ensembles Cymdeithas y Cerddorion yn cynnwys Cerddorfa, Band Chwythbrennau, Band Mawr, Grŵp Llinynnau, Côr Ffliwtiau, Côr Clarinetau a'r Grŵp Sacsoffonau; mae'r Côr Gospel yn canu emynau hwyliog a cherddoriaeth gyfoes; mae'r Côr Sioe Gerdd yn canu a dawnsio i pop, roc a theatr gerdd; ac mae'r Gymdeithas Cerddoriaeth Byw yn cynorthwyo myfyrwyr i ffurfio bandiau o bob steil a genre.
Archifau Richard Burton
Mae Archifau Richard Burton yn dal deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r Archifau yn dal casgliadau dros ystod eang o feysydd megis diwydiannau metelegol a maes glo De Cymru, papurau'r athronydd enwog Rush Rhees, ysgutor llenyddol Wittgenstein, papurau Raymond Williams, yn ogystal â llu o bethau diddorol eraill. Rhoddir yr Archifau cyfleoedd i fyfyrwyr i weithio gydag ac o fewn y gwasanaeth, trwy amrywiaeth o fodiwlau academaidd a phrofiad gwaith.
Llyfrgell y Glowyr De Cymru
Mae Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn cadw deunyddiau a chasglwyd dros y 40 mlynedd diwethaf, gan gynnwys ffotograffau, posteri, baneri, hanesion llafar, a llyfrau a achubwyd o lyfrgelloedd sefydliadau'r glowyr ac a rhoddwyd o gasgliadau preifat.
Roedd gan bron pob cymuned lofaol fawr yn Ne Cymru sefydliad glowyr ei hun, a weithredodd fel canolfan hamdden, gymdeithasol a wleidyddol. Gwnaeth cenedlaethau o lowyr addysgu eu hun trwy lyfrgelloedd y sefydliadau glowyr, ond cafodd llawer o'r llyfrgelloedd eu dinistrio neu'u wasgaru yn ystod y 1960au. Achubodd Prosiect Hanes y Maes Glo De Cymru rhai o’r casgliadau hyn, a welwyd gan haneswyr fel rhan o dreftadaeth De Cymru.
Casgliad Hanes Cyfrifiadura
Mae Casgliad Hanes Cyfrifiadura'r Brifysgol yn cynnwys offer, meddalwedd, archifau, effemera, hanesion llafar a fideos. Sefydlwyd y Casgliad yn ystod hydref 2007 er mwyn astudio datblygiad ac arloesedd technolegol hanesyddol, a'r berthynas rhwng technolegau cyfrifiadura â phobl a'r gymdeithas yn benodol.
Un ffocws pwysig yw datblygiad cyfrifiadura yng Nghymru. Trwy ymchwilio i hanes cyfrifiadura yn lleol, rydym wedi canfod ein bod ni'n gallu gweld a cheisio deall cydadwaith "achosion ac effeithiau" technegol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn well.
Mae'r Casgliad hefyd yn ymwneud â meysydd arbenigol penodol o gyfrifiadura. Mae'r dewis o'r pynciau hyn yn adlewyrchu diddordebau aelodau Prifysgol Abertawe a chyfeillion y Casgliad. Er enghraifft, mae gennym archif L. J. Comrie, FRS (1893-1950), arloeswr dulliau rhifiadol, sy'n cynnwys nodiadau a'i gasgliad o dablau mathemategol; ac mae gennym archifau sy'n dangos datblygiad cyfrifiadureg ddamcaniaethol a dulliau ffurfiol ar gyfer peirianneg meddalwedd.