Cyflwynwyd y wobr ariannol o £30,000 i Fiona McFarlane, sy’n 39 mlwydd oed ac yn byw yn Sydney, mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
The High Places, a gyhoeddwyd gan Farrar, Straus, Giroux yn yr UDA a Spectre yn y DU, yw ail lyfr Fiona McFarlane. Ei nofel gyntaf, The Night Guest, oedd enillydd cyntaf Gwobr Lenyddol Voss. Enillodd Wobr Barbara Jefferis 2014 a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian yn 2014.
Caiff y wobr o £30,000 ei dyfarnu i'r darn gorau o waith wedi'i gyhoeddi'n Saesneg, sydd wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau. Wedi’i sefydlu yn 2006, bwriad y wobr yw cydnabod a chefnogi awduron mawr y dyfodol yn ogystal â chydnabod etifeddiaeth Dylan Thomas, a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i waith gorau tra yn ei ugeiniau.
Mae straeon byrion The High Places yn llamu ar draws cyfandiroedd, oesau a genres er mwyn cofnodi taith emosiynol bywyd. Yn “Mycenae”, disgrifia’r awdur taith drychineb pâr canol oed yng nghwmni hen ffrindiau. Yn “Good News for Modern Man”, mae gwyddonydd yn byw ar ynys fach gydag ond ysbryd Charles Darwin ac ystifflog enfawr yn gwmni iddo. Yn stori The High Places, mae ffarmwr yn Awstralia yn troi at ddulliau’r Hen Destament er mwyn lleddfu problemau sychder.
Meddai’r Athro Dai Smith, cadeirydd y panel beirniadu: “Ar ôl llawer o drafodaethau egnïol, mae'r beirniaid yn cydnabod meistrolaeth yng nghasgliad bythgofiadwy o straeon byrion syfrdanol Fiona McFarlane. Cytunom fod The High Places yn amrywiol iawn o ran naws, gyda phob stori yn dadansoddi themâu megis hiraeth, atgasedd, cariad ac ofn - pob un ohonynt animeiddio ein bodolaeth, ac yn awgrymu bod realiti yn bodoli y tu hwnt i fychander ein bywydau. Mae hwn yn waith aeddfed gan awdur ifanc sy'n amlygu gwir enaid rhyngwladol o wobr hon”.
Roedd y rhestr fer eleni yn cyfuno straeon byrion, nofelau a barddoniaeth. Yn ogystal â chasgliad Fiona McFarlane, roedd gwaith pum awdur arall ar y rhestr fer: Anuk Arudpragasam (Sri Lanka), The Story of a Brief Marriage, Granta; Alys Conran (DU), Pigeon, Parthian; Luke Kennard (DU), Cain, Penned in the Margins; Sarah Perry (DU), The Essex Serpent, Serpent’s Tail a Callan Wink (UDA), Dog Run Moon: Stories, Granta.