Dyfarnwyd y wobr i Kayo am ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Kumakanda, sy’n mynd i’r afael â’r defodau mae bechgyn ifanc yn eu profi ar eu taith i fod yn ddynion, y modd y mae gwrywdod a hil yn ymblethu, a’r hyn y mae bod yn Brydeinig a ddim yn Brydeinig ar yr un pryd yn ei olygu.
Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, sy’n cynnig gwobr ariannol o £30,000, yw gwobr lenyddol fwya’r byd ar gyfer awduron ifanc 39 oed neu iau, ac mae’n agored i awduron o bob gwlad, sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Mae’r wobr yn dathlu ffuglen ym mhob ffurf, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, ac fe’i dyfernir gan Brifysgol Abertawe.
Wrth dderbyn y wobr, meddai Kayo Chingonyi: "Rwy’n syfrdanol. Mae'n wych cael gwobr yn enw Dylan Thomas. Cefais fy nghyflwyno i waith Dylan Thomas gan athrawes ysbrydoledig iawn a ddarllenodd Dan y Wennallt i mi, ac mae ei waith wedi fy hudo ers hynny. Hoffwn ddiolch i'm hathrawon a roddodd yr hyder i mi i barhau i ysgrifennu'r cerddi yr oeddwn yn ysgrifennu i mi fy hun. Y math yno o ysbrydoliaeth gan y bobl hynny sy’n rhoi’r gallu i mi barhau i farddoni. Mae barddoniaeth yn ganolbwynt i fy mywyd i erbyn hyn, ac mae’n chwarae rhan bwysig ym mhob agwedd o fywyd. Rwy'n ddiolchgar iawn”.
Meddai’r Athro Dai Smith CBE o Brifysgol Abertawe, cadeirydd y beirniaid: "Mae gan Kayo Chingonyi lais gwreiddiol ac unigryw, ac mae'r casgliad hwn, sy’n aeddfed ac yn ingol, yn dangos meistrolaeth bardd ifanc mewn sawl ffordd i ddatgelu cynnwys sy'n bersonol ac yn hynod o berthnasol i gyfyngiadau cymdeithasol Prydain heddiw”.
Meddai’r Michael Sheen, cymrawd anrhydeddus Prifysgol Abertawe: “Hoffwn longyfarch Kayo Chingonyi ar gipio Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas am ei gasgliad cyntaf o gerddi, Kumakanda. Dyma gasgliad o gerddi hyfryd a hynod berthnasol o safbwynt diwylliannol. Maent yn archwilio diwylliant du, gwrywdod a hunaniaeth ym Mhrydain heddiw. “O fod wedi cael fy magu yn agos i Abertawe, rwy'n teimlo bod cysylltiad cryf iawn gen i â threftadaeth ddiwylliannol Cymru, ac mae'n anrhydedd imi gyflwyno gwobr sy'n dod â'r doniau llenyddol ifanc gorau a chyffrous o bob cwr o'r byd i Gymru. Rwy’n gwybod fy hun pa mor hanfodol y gall profiadau o’r gair ysgrifenedig fod i feddyliau ifanc, ac rwy’n edmygu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas am barhau â gwaddol Dylan Thomas wrth ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf awduron ifanc o Gymru a thu hwnt. Gan mai eleni yw degfed flwyddyn y wobr, a hithau’n 65 o flynyddoedd ers marwolaeth Thomas, nid oes amser gwell i ddathlu gwaddol Dylan a rhyfeddod y gair ysgrifenedig”.
Yn ogystal â’r wobr ariannol o £30,000, mi fydd Kayo yn cael y cyfle i drafod ei waith yng nghwmni’r Athro Dai Smith yng Ngŵyl y Gelli ddiwedd y mis.
Mae cyn-enillwyr y wobr yn cynnwys Max Porter gyda’r gyfrol Grief is the Thing with Feathers yn 2016, Joshua Ferris yn 2014 am ei nofel To Rise Again at a Decent Hour, a chasgliad o straeon byrion Fiona McFarlane, The High Places, y llynedd.
Wedi’i gadeirio gan yr Athro Dai Smith, mae’r panel beirniadu’n cynnwys y bardd a’r ysgolhaig Kurt Heinzelman; y nofelydd a’r dramodydd Rachel Trezise, yr awdur a’r dramodydd Paul McVeigh, a’r awdur Namita Gokhale.