Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru
Yn WIPAHS, rydym yn defnyddio pŵer trawsnewidiol gweithgarwch corfforol a chwaraeon i newid bywydau pobl Cymru. Gan weithio ledled y wlad, rydym yn dod ag academyddion, y rhai sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd er mwyn llunio ac ateb cwestiynau allweddol am iechyd a lles y genedl.
Ein nod yw creu cymdeithas iachach. Mae eich craffter a'ch gwybodaeth chi yn hanfodol i gyflawni'r nod hwn. Beth bynnag yw eich nod, o hyrwyddo gweithgarwch corfforol, datblygu sefydliadau chwaraeon neu uchafu iechyd gydol oes, byddwn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i ateb y cwestiynau a nodwyd gennych.
Rydym yma i droi ymchwil yn ymarfer, i gyfuno gwybodaeth a phrofiad amrywiol ac i feithrin dealltwriaeth sy'n trawsnewid iechyd a lles ein poblogaeth. Byddwn yn helpu i ddod o hyd i'r atebion os ydynt ar gael, neu byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r ffordd orau o'u dyfeisio os nad ydynt.
Mae'n hanfodol bod pobl ledled Cymru yn weithredol yn gorfforol, er mwyn eu hiechyd a'u lles. Fodd bynnag, nid yw bob amser yn amlwg sut i gyflawni hyn. Gall WIPAHS helpu i gefnogi mentrau sy'n bodoli eisoes a rhai newydd i lywio eu cynllun, esbonio pam maent yn llwyddiannus, neu ddatblygu gwersi ar gyfer gwella yn y dyfodol.