DEWCH I GWRDD Â CARA
Penderfynais astudio'r cwrs MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth ar ôl astudio'r modiwl Atal Eithafiaeth Dreisgar yn ystod fy nhrydedd flwyddyn a chynnal prosiect ymchwil annibynnol fy mlwyddyn olaf ar ganfyddiadau o derfysgaeth. Yn sgîl hyn, sylweddolais fy mod am wella fy ngwybodaeth am y pwnc ymhellach.
Y peth gorau am y cwrs MA oedd y cyfleoedd yr oedd y cwrs yn eu cynnig, gan gynnwys cael eich addysgu gan arbenigwyr yn y maes a chael sesiwn holi ac ateb gyda'r Arglwydd Carlile CB. At hynny, yn ystod y cyfyngiadau symud cefais y cyfle i fod yn rhan o interniaeth ymchwil yn dadansoddi adroddiadau tryloywder y cyfryngau cymdeithasol am geisiadau gan y llywodraeth am fynediad at wybodaeth defnyddwyr a cheisiadau i ddileu cynnwys.
Oni bai am astudio'r MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, ni fyddai gen i'r sgiliau sydd gen i nawr. Mae'r sgiliau hyn wedi fy ngalluogi i weithio mewn maes y mae gen i gariad ato.