Cyngor personol gan rywun a gafodd ei le Troseddeg drwy Glirio

Awdur: Meg Pilliner, Troseddeg a Chymdeithaseg

Fy Mhrofiad Clirio

Des i Abertawe drwy Glirio gan nad oedd gen i'r cyfle i wneud cais yn y ffordd draddodiadol, roedd bod yn fam i fabi newydd-anedig yn bendant ddim yn caniatáu i mi gael amser i wneud hynny! Fodd bynnag, roeddwn wedi clywed am Glirio a phenderfynais roi tro arno. Pan ffoniais y llinell gymorth, nid oeddwn yn disgwyl i'r broses fod mor hawdd ac ymlaciol. Roedd y person ar ochr arall y ffôn mor garedig ac yn ddeallus, roedd fel siarad â ffrind.

Rydw i mor falch yr es i drwy Glirio; roedd y gorbryder a'r straen o flaen llaw wedi diflannu'n gyfan gwbl ac mae'r ymweliadau Clirio a gynhelir gan Abertawe yn anhygoel. Roedd popeth wedi disgyn i'w le yn ystod yr ymweliad honno, cwympais mewn cariad â'r campws, roedd yr academyddion mor gyfeillgar ac roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau treulio'r 3 mlynedd nesaf yn astudio yn Abertawe.

Pe taswn i'n gallu gwneud y daith eto, ni fuaswn yn oedi i fynd drwy Glirio. Mae'n opsiwn ardderchog i'r rhai sy'n gwneud y mwyaf ohono.

Meg Pilliner, myfyriwr Troseddeg a Chymdeithaseg

Meg Pilliner

Pam Abertawe?

Roedd gen i'r nod o fynd i'r Brifysgol yn 2021, cyn hyn roeddwn wedi tynnu allan o'r chweched dosbarth, a gweithio'n llawn amser am ddwy flynedd ac yna ddychwelyd yn ôl i'r coleg i gwblhau fy Safonau Uwch. Fodd bynnag, roeddwn yn feichiog gyda fy merch oeddi gael ei geni dim ond 2 fis ar ôl fy nyddiad cychwyn yn y brifysgol. Roeddwn yn parhau i ddyheu am fynd i'r brifysgol ac felly penderfynais gyflwyno cais pan roedd hi'n 8 mis oed. Oherwydd bod gen i ferch fach, roeddwn yn gwybod bod angen prifysgol arnaf oedd yn mynd i gynnig llawer o gymorth a dealltwriaeth.

Roeddwn wedi clywed pethau anhygoel gan fy ffrindiau oedd wedi astudio yn Abertawe ac roeddwn yn meddwl y byddai'n ddewis gwych i mi. Roeddwn i hefyd yn gwybod er mwyn mynd i’r brifysgol, fod angen i mi ddod o hyd i brifysgol oedd yn ddigon agos i allu cymudo, felly cyflwynais gais drwy Glirio i Abertawe a des i'r ymweliad Clirio.

Roeddwn yn ofni y byddai'n rhaid i mi fynd i brifysgol nad oeddwn yn ei charu oherwydd fy mod i’n gyfyngedig oherwydd pellter, fodd bynnag, wrth ymweld ag Abertawe, roeddwn i'n ffaelu credu pa mor anhygoel oedd y brifysgol ac roeddwn yn teimlo'n ffodus iawn i gael prifysgol a chymuned mor anhygoel yn agos ataf, roedd mor ymlaciol ond hefyd yn hardd.

Rwy'n sicr pe taswn wedi cael yr opsiwn i ddewis prifysgol ymhellach o adref, y byddwn yn bendant yn parhau i ddewis Abertawe bob tro.

Fy mhrofiad yn Abertawe

Sut brofiad ydych chi wedi cael fel myfyriwr yma? Mae'n anodd mynegi mewn geiriau pa mor arbennig mae fy mhrofiad fel myfyriwr wedi bod yn Abertawe. Pan gyrhaeddais i yn y lle cyntaf, fy mwriad oedd cadw fy mhen yn fy llyfrau, mynychu fy narlithoedd ac yna fynd adref i astudio. Roeddwn i'n gwybod na fyddai fy nhaith yn y brifysgol yn draddodiadol gan fy mod i'n fam newydd am y tro cyntaf, roeddwn ychydig yn hŷn na llawer o fy ngharfan ac nid oedd gen i'r opsiwn i fyw mewn neuadd breswyl a chymdeithasu yn y ffordd draddodiadol. Fodd bynnag, gyda'r nifer o gyfleoedd sydd ar gael i chi fel myfyriwr yn gyson, yn sydyn iawn des yn llysgennad ar ôl cymryd rhan mewn ffrwd fyw Clirio.

Cwympais mewn cariad â'r rôl a phenderfynais fy mod i eisiau cymryd rhan hyd yn oed yn fwy gyda fy nghwrs. Rwyf nawr yn llysgennad, ond hefyd yn fentor cymheiriaid, yn gynrychiolydd myfyrwyr ac yn fuan byddaf yn dechrau interniaeth wedi'i chynnig gan gyfarwyddwr fy nghwrs. Trwy'r cyfleoedd hyn i gyd, rwy’ wedi dod o hyd i fy hunaniaeth ac nid ydw i'n barod i'r profiad ddod i ben.

Gobeithio y byddaf yn parhau i gwblhau Gradd Meistr a PhD yn Abertawe ar ôl i mi gwblhau fy ngradd israddedig.

Fy nghyngor ar gyfer cyflwyno cais drwy Glirio

Dewch i ddiwrnodau agored neu ddigwyddiadau Clirio yma.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn teimlo bod y brifysgol rydych yn ei dewis yn gywir i chi. Peidiwch â bod ofn cysylltu neu ofyn cwestiynau, mae dewis lle i astudio am o leiaf dair blynedd yn ddewis mawr, ond gallaf eich sicrhau y bydd Abertawe yn eich helpu bob cam o'r ffordd.

Mae cymuned enfawr o bobl yma sydd eisiau eich helpu, sicrhewch eich bod yn eu defnyddio.

Syniadau Da ar gyfer Clirio

Paratowch ar gyfer clirio o flaen llaw:

  • Gwnewch eich ymchwil ar brifysgolion sy'n mynd drwy'r broses glirio. Pan fyddwch chi'n dod o hyd i brifysgolion hoffech chi fynd iddynt, gwnewch ymchwil ar eu cyrsiau i weld beth maent yn ei gynnig.
  • Pan fyddwch chi wedi gwneud yr ymchwil hon, lluniwch restr neu daenlen o'r prifysgolion yr hoffech chi fynd iddynt drwy glirio. Ar y daenlen, ychwanegwch y cwrs a'r rhif ffôn er mwyn cysylltu â nhw ar ddiwrnod clirio ar gyfer pob prifysgol rydych chi wedi'i dewis.
  • Sicrhewch fod eich holl fanylion wrth law: eich manylion cyswllt, rhif clirio o UCAS, canlyniadau Safon Uwch, Safon UG a TGAU gyda'r marciau, datganiad personol, nodiadau am y cwrs a'r brifysgol, ysgrifennwch unrhyw gwestiynau y gall fod angen i chi eu gofyn a gwnewch nodiadau yn ystod yr alwad
  • Dewch o hyd i le lle na fydd neb yn tarfu arnoch a gwnewch y galwadau eich hun.