Mae Health and Social Care Heroes yn bodlediad newydd gan Brifysgol Abertawe, sydd â'r nod o ddangos y gyrfaoedd anhygoel sydd ar gael yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU. Caiff ei gyflwyno gan Sara Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen y radd Iechyd a Gofal Cymdeithas, ar y cyd â Simeon Smith, Arbenigwr Cyflogadwyedd, a Sarah.

Penodau

Pennod 5- Health and Social Care Heroes: Lowri Bernard – Clwyd Primary School

Ar gyfer ein pennod olaf o Arwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rydym yn eistedd i lawr gyda Lowri Bernard, Swyddog Cyswllt Teuluol yn Ysgol Gynradd Clwyd. Mae Lowri yn rhoi cipolwg mewnol ar ei rôl yn cefnogi myfyrwyr a theuluoedd, cryfhau'r cysylltiad cartref-ysgol, a sicrhau bod myfyrwyr yn ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. Mae hi’n rhannu heriau a gwobrau ei gwaith o ddydd i ddydd, yn ogystal â’r sgiliau a’r ymroddiad sydd eu hangen ar gyfer gyrfa ym maes cefnogi teuluoedd o fewn y sector addysgol. 

Mae Lowri hefyd yn cynnig cyngor gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n dyheu am wneud gwahaniaeth ym mywydau plant trwy rolau tebyg mewn ysgolion a chymunedau.

Pennod 4 – Health and Social Care Heroes: Alan Burnell OBE, Family Futures

Yn y bennod hon, rydym yn sgwrsio ag Alan Burnell OBE, sefydlydd a chyn-brif swyddog gweithredol Family Futures, sefydliad nid er elw yn Llundain sy'n ymroddedig i fabwysiadu a chymorth ar ôl mabwysiadu. Mae Family Futures yn darparu gofal therapiwtig arbenigol i blant sydd wedi profi trawma cynnar, ynghyd â rhoi cymorth i'r teuluoedd sydd wedi'u mabwysiadu nhw. Mae Alan yn rhannu ei daith dros 30 mlynedd o weithio yn y maes hwn, yn trafod datblygu Family Futures a'i ymagwedd unigryw a chyfannol at iachau. Mae hefyd yn cynnig cipolwg gwerthfawr i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes therapiwtig, y gwasanaethau cymdeithasol a chymorth i deuluoedd 

Pennod 3 – Health and Social Care Heroes: Emily Murphy – Elusen Digartrefedd Ieuenctid Llamau

Ar gyfer ein trydedd bennod, rydym yng nghwmni Emily Murphy, Rheolwr Codi Arian Cymunedol yn Llamau, elusen flaenllaw yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd a menywod y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Mae Emily yn rhannu'r gwaith llawn effaith y mae Llamau'n ei wneud i ddarparu tai diogel, gwasanaethau cymorth ac eiriolaeth, wrth hefyd drafod llwybrau gyrfaol yn y sector nid-er-elw a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ffynnu.

Pennod 2 – Health and Social Care Heroes: Miranda Griffiths, Prosiect Teuluoedd Ifanc JIGSO

Yn y bennod hon, rydym yn sgwrsio â Miranda Griffiths, Arweinydd Tîm gyda Phrosiect Teuluoedd Ifanc JIGSO yn Abertawe. Mae JIGSO yn rhoi cymorth hanfodol i rieni ifanc a'u teuluoedd, gan roi arweiniad o ran sgiliau magu plant, cymorth iechyd meddwl a lles yn gyffredinol.Mae Miranda'n rhannu ei phrofiadau wrth helpu teuluoedd i lywio'r heriau, meithrin gwydnwch a chreu amgylchoedd iachach i'w plant.Gwrandewch i ddysgu mwy am y gwaith llawn effaith hwn a darganfod llwybrau i yrfaoedd yn y gwasanaethau cefnogi teuluoedd a chymunedau. 

Pennod 1 - Health and Social Care Heroes: Emma Gardiner, Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Yn y bennod gyntaf hon, rydym yn clywed gan Emma Gardiner, Cydlynydd  Gwasanaethau Cleientiaid yn Age Cymru, Gorllewin Morgannwg, i ddeall ei rôl a gwaith ymroddedig yr elusen wrth gefnogi pobl hŷn yn y gymuned. Mae Emma'n rhannu gwybodaeth am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, o eiriolaeth i gymorth ymarferol, ac yn trafod y sgiliau sy’n angenrheidiol am yrfa yn y sector hollbwysig hwn. Gwrandewch i glywed am ei thaith gyrfa wobrwyol a'i chyngor i'r rhai sy'n ystyried llwybr tebyg.

Croeso i'r Podlediad

Dewch i adnabod eich gwesteiwyr wrth i ni gyflwyno ein podlediad newydd sbon; croesawu gwesteion o bob rhan o’r sector a fydd yn eich ysbrydoli a’ch arwain drwy’r rolau amrywiol a gwerth chweil sy’n gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol.