Hyfforddi Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Yfory
Rydym ar flaen y gad o ran hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG yng Nghymru. Rydym yn arwain y ffordd o ran hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a gofal iechyd gan fod profiad ymarferol, gweithgareddau efelychu o'r radd flaenaf a lleoliadau rheolaidd wedi’u hymgorffori yn ein cyrsiau o'r cychwyn cyntaf.Mae ystod eang o'n cyrsiau gofal iechyd hefyd yn cael eu hariannu'n llawn gan Gynllun Bwrsariaethau’r GIG, sy'n golygu nad oes ffïoedd dysgu i'w talu yn gyfnewid am swydd wedi'i gwarantu yn y GIG yng Nghymru.