Gwnewch y mwyaf o'ch 5ed dewis ar eich ffurflen UCAS

Fel ymgeisydd Meddygaeth israddedig, bydd UCAS yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddewis 5ed dewis nad yw'n Feddygaeth ar eich cais. Mae ein Llwybrau at Feddygaeth wedi'u cynllunio'n benodol i lenwi'r slot 5ed dewis gyda gradd a fydd yn eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth, a'ch helpu i gael cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein gradd Meddygaeth.

Mae myfyrwyr sy'n dewis llwybr i feddygaeth yn elwa ar fodiwlau pwrpasol a arsylwadau iechyd neu gysylltiedig. Cânt eu paratoi'n arbenigol ar gyfer gwneud cais i'n cwrs Meddygaeth i Raddedigion ochr yn ochr â chyfweliad gwarantedig ar gyfer ein cwrs Meddygaeth i Raddedigion.

Cofrestrwch ar gyfer ein diwrnod agored nesaf

Sut mae Llwybr i Feddygaeth yn gweithio?

Mae ein proses Llwybr i Feddygaeth yn syml

  • Dewiswch un o'r cyrsiau canlynol
  • Gorffenwch y Llwybr yn llwyddiannus*
  • Ennill cyfweliad gwarantedig ar gyfer MBBCh Meddygaeth (i Raddedigion) yn Abertawe.

*Gwelwch 'Beth yw cwblhau'r Llwybr israddedig yn llwyddiannus?' isod

Delwedd o ddau fyfyriwr mewn labordy.

Mae Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn faes astudio amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar agweddau biolegol iechyd a chlefydau dynol. Mae'n cyfuno egwyddorion o fioleg, cemeg, a disgyblaethau gwyddonol eraill i ddeall mecanweithiau sylfaenol clefydau, datblygu offer diagnostig, ac archwilio triniaethau ac ymyriadau. Mae gwyddonwyr meddygol Cymhwysol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu gwybodaeth feddygol a gwella gofal iechyd.

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, BSc (Anrh)
Delwedd o fyfyriwr yn defnyddio offer ymchwil mewn labordy.

Mae Biocemeg Feddygol yn rhaglen sy'n canolbwyntio ar astudio biocemeg gyda phwyslais penodol ar ei chymwysiadau mewn meddygaeth a gofal iechyd. Mae Biocemeg Feddygol yn faes arbenigol sy'n canolbwyntio ar y prosesau biocemegol a'r moleciwlau sy'n gysylltiedig ag iechyd a chlefydau dynol. Trwy astudio gradd Biocemeg Feddygol bydd myfyrwyr yn archwilio sut mae celloedd, meinweoedd, ac organau yn gweithredu ar lefel foleciwlaidd a sut y gall aflonyddwch yn y prosesau hyn arwain at gyflyrau meddygol.

Biocemeg Feddygol, BSc (Anrh)
Delwedd o fyfyriwr yn gwneud gwaith ymchwil mewn amgylchedd labordy.

Mae Geneteg Feddygol yn faes cyffrous sy'n symud yn gyflym ac sy'n cael effaith aruthrol ar Feddygaeth. Mae Geneteg Feddygol yn canolbwyntio ar astudio anhwylderau genetig, a'r ffactorau genetig sy'n dylanwadu ar iechyd a chlefydau dynol. Mae gradd mewn geneteg feddygol yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i unigolion weithio ar y groesffordd rhwng geneteg a gofal iechyd, gan wneud cyfraniadau hollbwysig at ddiagnosis, triniaeth ac atal anhwylderau genetig a chlefydau etifeddol. Bydd gradd mewn Geneteg Feddygol yn helpu i'ch paratoi trwy ddeall y wyddoniaeth sy'n chwyldroi Meddygaeth.

Geneteg Feddygol, BSc (Anrh)
Delwedd o ddau fyfyriwr yn gweithio gyda'i gilydd mewn labordy.

Ffarmacoleg Feddygol yw'r wyddoniaeth y tu ôl i gyffuriau a meddyginiaethau, eu heffeithiau ar systemau byw, a'u rôl wrth drin afiechyd. Mae'r math hwn o raglen radd wedi'i chynllunio i roi dealltwriaeth ddofn i fyfyrwyr o ffarmacoleg a'i chymwysiadau mewn gofal iechyd ac ymarfer clinigol. Mae'n ymwneud yn arbennig â datblygiad, defnydd, ac effeithiau meddyginiaethau yng nghyd-destun ymarfer meddygol, gan gynnwys deall mecanweithiau cyffuriau, cymwysiadau therapiwtig, a sgîl-effeithiau posibl. Mae gradd mewn ffarmacoleg feddygol yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i unigolion weithio ar y groesffordd rhwng ffarmacoleg a gofal iechyd, gan gyfrannu at y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau mewn ymarfer clinigol ac ymchwil.

Ffarmacoleg Feddygol, BSc (Anrh)
Delwedd o ddau fyfyriwr yn astudio gyda'i gilydd.

Rhaglen Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau Prifysgol Abertawe yw eich porth i yrfa ddeinamig a gwerth chweil ym myd gofal iechyd, epidemioleg a pholisi iechyd y cyhoedd. Mae ein Rhaglen Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau arloesol wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ragori ym maes iechyd y boblogaeth sy'n datblygu'n gyflym. Gyda phwyslais cryf ar ddysgu rhyngddisgyblaethol, mae'r rhaglen hon yn cyfuno'r gwyddorau meddygol, iechyd y cyhoedd a'r gwyddorau cymdeithasol yn ddi-dor, gan roi dealltwriaeth gyfannol i chi o systemau iechyd a gofal iechyd.

Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau, BSc (Anrh)
Delwedd o fyfyriwr yn edrych ar gap sganio'r ymennydd.

Bydd astudio Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad. Byddwch yn astudio prosesau seicolegol a niwro-wyddonol sy’n tanategu gweithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, dysgu am effeithiau anaf i'r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella cynnydd ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Seicoleg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)
Myfyrwyr yn y labordy biofeddygol
  1. Marc cyfartalog cyffredinol o 60% yn y Flwyddyn Gyntaf
  2. 60% yn y Modiwlau Llwybr – "Doctors, Patients and the Goals of Medicine (PM254)"
  3. Mae'n ofynnol wrth wneud cais fod gan fyfyrwyr sgor GAMSAT neu UCAT dilys neu eu bod un disgwyl sgor dilys

Bydd myfyrwyr sy'n cyrraedd y meini prawf mynediad yn gymwys am gyfweliad gwarantedig yn eu blwyddyn olaf ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe, ond dim ond unwaith y caiff fyfyrwyr ddefnyddio'r Cyfweliad Gwarantedig, yn eu blwyddyn olaf o astudio.

Meddygaeth i Raddedigion

Beth yw Meddygaeth i Raddedigion?

Mae ein gradd feddygol llwybr carlam, sy'n para 4 blynedd, wedi'i dylunio i adlewyrchu'r ffordd y mae clinigwyr yn ymdrin â chleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno eu symptomau i feddygon. Byddwch yn ennill profiad clinigol ar leoliad gwaith o'r tymor cyntaf. Pan fyddwch yn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch chi'n graddio â gradd MB BCh o Brifysgol Abertawe, gan eich galluogi i symud ymlaen at yr UK Foundation Programme ar gyfer meddygon newydd gymhwyso, lle byddwch yn dechrau hyfforddi mewn amgylchedd clinigol. 

Meddygaeth (i Raddedigion), MB BCh
Myfyrwyr yn y labordy anatomeg

Colli Feddygaeth?

Os na chawsoch chi le ar gwrs Meddygaeth a'ch bod yn gwneud cais prifysgol drwy'r broses Glirio, mae ein llwybrau gradd yn ddewis delfrydol i chi. Nid yw'n rhy hwyr i ymuno â ni yn 2026 - rydyn ni yma i'ch helpu chi.

Help Clirio

Newydd ar gyfer 2027 - MBBCh Meddygaeth ar gyfer ymgeiswyr yn y De a Gorllewin Cymru

Yn lansio yn 2027, mae gradd MB BCh Meddygaeth newydd wedi eu hanelu’n benodol i roi cyfle unigryw i ymgeiswyr Safon Uwch (neu gyfwerth) o dde a gorllewin Cymru astudio Meddygaeth dros bum mlynedd.

Byddwch yn treulio blwyddyn gychwynnol mewn cyflogaeth llawn amser â thâl fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd mewn amrywiaeth o amgylcheddau gofal iechyd, gan gynnwys ysbytai a lleoliadau cymunedol. Bydd cyflogaeth yn cael ei threfnu gennym ni o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda neu Fae Abertawe ac o fewn pellter cymudo i'ch cyfeiriad cartref.

Bydd y profiad gwaith hwn wedyn yn eich neidio chi ymlaen yn syth i'n cwricwlwm Meddygaeth i Raddedigion enwog, rhaglen 4-blynedd gyflym a gyflwynir yn ein campws Parc Singleton.

Byddwch yn treulio blwyddyn gyflogedig gychwynnol fel gweithiwr cymorth gofal iechyd, ac yna byddwch yn treulio 4 blynedd o'ch cwrs yn astudio ein rhaglen MB BCh ar ein campws ym Mharc Singleton.

Mae meini prawf cymhwyster llym ar gyfer y cwrs hwn. Rhaid i’r holl ymgeiswyr:

  • Cael rhagweld i gyrraedd AAA ar Safon Uwch (neu gyfwerth), gan gynnwys Bioleg neu Gemeg, neu fod wedi cyflawni hyn o fewn y ddwy flynedd cyn gwneud cais
  • Wedi llwyddo TGAU mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Iaith Gymraeg ar radd C/4 neu'n uwch
  • Llwydo sgôr gyffredinol UCAT o 1900 neu fwy yn ystod y flwyddyn cyflwyno cais
  • Byw ar hyn o bryd ac wedi mynychu ysgol uwchradd yn un o'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, neu Sir Benfro

Mae unrhyw gynnig lle yn dibynnu ar berfformiad yn y cyfweliad ac ar sgrinio iechyd galwedigaethol a DBS boddhaol.

Darganfyddwch mwy o gwrs Meddygaeth (MB BCh) ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru

Storiau a chyngor myfyrwyr

Gloria Prince

Mae Gloria, a wnaeth un o'n Llwybrau at Feddygaeth yn rhoi rhywfaint o gyngor defnyddiol ar y ffordd orau o ddefnyddio'ch 5ed Dewis UCAS. Bydd UCAS yn gofyn i chi fel Ymgeisydd Meddygaeth israddedig wneud hynny ar eich cais. Dyluniwyd ein Llwybrau at Feddygaeth yn benodol i lenwi'r hyn a fydd yn eich helpu i gyflawni'ch uchelgais i astudio Meddygaeth, a'ch helpu i gael cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein gradd Meddygaeth.

Darllen stori Gloria
Hope Henry

Ymunodd Hope Henry â'r Brifysgol fel myfyriwr Clirio na gafodd le ar gwrs Meddygaeth is-raddedig. Astudiodd radd Sylfaen sydd ar ein Llwybr i Feddygaeth ac eleni fe raddiodd o'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Mae hi bellach yn gweithio yn y maes meddygol. Darllenwch stori Hope i glywed am ei phrofiad o astudio cwrs llwybr i Feddygaeth ac yna'r Radd Meddygaeth i Raddedigion.

Darllen stori Hope

Gwybodaeth ddefnyddiol arall