Rydyn ni’n adran sy’n tyfu, a arweinir gan ymchwil ac sy’n darparu amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol lle caiff myfyrwyr eu haddysgu gan ymchwilwyr o safon fyd-eang. Ein nod yw darparu profiad dysgu neilltuol i bob myfyriwr. 

Wrth astudio yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe cewch eich addysgu gan academyddion sy’n arwain yn fyd-eang yn eu maes, gan ddefnyddio eu gwybodaeth i lywio eich profiad dysgu ac addysgu. Yn yr asesiad ymchwil diweddaraf, roeddem yn falch o gynnal ein diwylliant ymchwil gyda hanes cryf o drosi gwyddoniaeth yn ganlyniadau byd go iawn, gyda 100% o'n heffaith yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol (REF2021).

5ed safle yn y DU Unicompare