Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi (SUSIM)

Mae Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi (SUSIM) yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychu i gefnogi dysgwyr a thimau i drochi, myfyrio a datblygu drwy senarios byd go iawn mewn athroniaeth un rhaglen ar amrywiaeth o safleoedd.

 Ein gweledigaeth ar gyfer addysg sy'n seiliedig ar efelychu yw ymgorffori dysgu rhyngbroffesiynol drwy gydol ein cyfres o raglenni clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein henw da byd-eang am addysg gofal iechyd yn ein gosod yn y sefyllfa orau i ddatblygu'r enw da hwn ac i gynyddu defnydd o ddulliau addysg ar sail efelychu a throchi yn ein cwricwlwm er budd ein myfyrwyr ac athrawon a datblygu arferion diogelwch cleifion, timau a systemau drwy ddysgu ymarferol.

SUSIM yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael offeryn awduro efelychiad IRIS i wella’r safonau a’r cydweithio wrth ddatblygu addysg seiliedig ar efelychiad.

Efelychu ar Waith Ymarfer

Profiad
Nursing and Graduate Entry student working within simulation suite

Rydym yn cydweithio yn Abertawe fel ein bod yn dysgu ac yn hyfforddi gyda'n gilydd hefyd. Mae dysgu gweithio gyda'n gilydd mewn ffyrdd hynod effeithiol â chymorth dulliau addysg sy'n seiliedig ar efelychu'n sicrhau bod gennym fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyderus a medrus sy'n myfyrio wrth weithredu ac ar eu gweithredu ac yn datblygu ymddygiadau cyfathrebu a thîm agored.

Dengys tystiolaeth gynyddol fod modelau uwch o ddysgu sy'n seiliedig ar efelychu o fudd i'r dysgwr, ac maent yn ein galluogi i ddod â safleoedd, arbenigedd a galwedigaethau gwasgaredig ynghyd i ddatblygu profiad a chanlyniadau addysgol.

Rydym yn defnyddio model cyflwyno "prif ganolfan a lloerennau", gan wella ein mannau dysgu a’n hymagwedd hyblyg ac ystwyth . Bydd ein prif ganolfannau hefyd yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu ymhellach eu sgiliau drwy ddysgu annibynnol sy'n ategu sesiynau addysgu ffurfiol ac yn cefnogi anghenion dysgwyr unigol ar yr un pryd.

Mathau Partneriaid ac Ymgysylltu Dysgu Trochi Rhyngbroffesiynol Datblygiadau

Ymchwil ac Arloesi

Ers iddi ddechrau yn 2021, mae rhaglen SUSIM wedi dechrau ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil ac arloesi.

Mae gan dimau a rhaglenni SUSIM genhadaeth gref i sicrhau bod ymagwedd hynod gydweithredol gennym at hyrwyddo ac ehangu dysgu ar sail efelychu ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Gyda'n partneriaid ymchwil, rydym yn datblygu partneriaethau, cydweithrediadau a chyfleoedd ymgysylltu ar draws partneriaid addysg glinigol, Byrddau Iechyd lleol, cymdeithasau efelychu proffesiynol ac yn datblygu cyfleoedd mewn cymunedau a busnesau lleol.

Paramedic students in street simulation with patient

Cyllid o £900K i Ddatblygu Hyfforddiant Rhith-wirionedd Pwrpasol

https://www.swansea.ac.uk/cy/swyddfar-wasg/newyddion-a-digwyddiadau/newyddion/2023/04/900000-o-gyllid-i-ddatblygu-hyfforddiant-vr-ar-gyfer-gweithwyr-iechyd-proffesiynol-yn-y-dyfodol.php

Cadwch le ar gwrs SUSIM

Person using laptop to book a course

Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan

Mae Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan yn brosiect ymchwil ac arloesi ar y cyd sy'n Datblygu Amgylchedd Clinigol Rhithwirl ar gyfer Dysgwyr Gofal Iechyd yng Nghymru. Ei nod yw pennu amgylchedd rhithwir amlddisgyblaeth a thraws-arbenigedd ar-lein ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig (Ysbyty Rhithwir Cymru).

Partneriaid y prosiect: Virtus Tech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Rhwydwaith Trawma Mawr De Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Canolfan Arloesi Technoleg Gynorthwyol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd

Dysgu cyfrifiadurol fel Moddolrwydd ar gyfer Addysgu Timau Clinigol

Mae tîm SUSIM yn gweithio gyda Body Interact ar hyn o bryd ar beilot i brofi a gweithredu platfform senario efelychu cyfrifiadurol ymysg ein timau addysg ryngbroffesiynol. Bydd y prosiect hwn yn para  12 mis a'i nod yw mesur effeithiolrwydd ac ymgysylltiad y dull hwn o addysg ar sail efelychu ar gyfer dysgwyr ac ystyriaethau o ran ei roi ar waith yn y Gyfadran.

SDP SUSIM
Campws Parc Dewi Sant SUSIM Yn Dod yn Fuan!