Mae rhaglen Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion yn grŵp gwirfoddol sy'n gweithio yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Cafodd ei sefydlu yn 2010 a'n nod ni yw cynnwys y cyhoedd wrth ddatblygu rhaglenni gofal iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a chynnwys y cyhoedd wrth addysgu ein myfyrwyr a darparu addysg iddynt. Drwy ein grŵp, bydd gennych chi'r cyfle i roi'n ôl i wasanaethau iechyd drwy helpu i addysgu Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol y dyfodol. Mae gwirfoddolwyr iechyd yn cynnig profiad o lygad y ffynnon, straeon bywyd go iawn ac yn ysbrydoli myfyrwyr i gysylltu'r ddamcaniaeth â'r ymarfer.

Mae cyrff proffesiynol a rheoleiddio ar gyfer addysg gofal iechyd, megis Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC) oll yn gofyn i ddarparwyr addysg gynnwys y cyhoedd a chleifion wrth gynllunio, cyflwyno, addysgu a gwerthuso rhaglenni proffesiynol.

BOD YN WIRFODDOLWR IECHYD

Fel Gwirfoddolwr Iechyd, byddwch yn rhan o amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Bod ar baneli ar gyfer cyfweliadau dethol myfyrwyr ar gyfer rhaglenni amrywiol
  • Chwarae rôl /efelychu sesiynau addysgu ymarferol gyda myfyrwyr
  • Cyflwyno sgyrsiau neu gyflwyniadau ynglŷn â'ch profiadau personol chi i fyfyrwyr
  • Datblygu adnoddau dysgu megis rhoi cyflwyniadau neu wneud ffilmiau
  • Grŵp CYMHEIRIAID - Darparu adborth i amryw brosiectau ymchwil

Drwy gydol y flwyddyn, rydym ni'n cynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr iechyd newydd a phresennol.

 

Os hoffech ddysgu mwy am Gynnwys Cleifion a'r Cyhoedd, neu fynegi eich diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr iechyd, cysylltwch â'r tîm yn FMHLSHealthVolunteers@swansea.ac.uk i gael gwybod mwy.