Myfyrwyr ar y traeth

Bydd ein rhaglenni gradd wedi'u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad. Byddwch yn astudio’r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith, yn dysgu am ganlyniadau anafiadau i’r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raddau mewn Seicoleg gan gynnwys BSc am 3 blynedd, neu 4 mlynedd gyda Blwyddyn Sylfaen, ac amrywiaeth o raglenni Cydanrhydedd sy'n cysylltu Seicoleg, Cymdeithaseg, Troseddeg ac Addysg.