- Disgrifiad
Gwyddor Fiomeddygol yw'r astudiaeth wyddonol o feinweoedd biolegol sy'n gysylltiedig â diagnosio a thrin cyflyrau amrywiol sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl. Mae'n broffesiwn gwyddor gofal iechyd sydd wedi cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n helaeth ac sy'n cwmpasu cymhwyso egwyddorion gwyddonol i gefnogi diagnosio, trin a monitro cyffuriau therapiwtig ar draws y cylch bywyd cyfan.
Nod y BSc mewn Gwyddor Fiomeddygol yw rhoi sgiliau technegol biomeddygol allweddol a gwybodaeth wyddonol sylfaenol i fyfyrwyr fel eu bod yn datblygu'n fyfyrwyr graddedig sy'n wyddonwyr dadansoddol, arloesol, creadigol, diogel, hyderus a myfyriol, a fydd yn gallu croesawu newid, datblygu sgiliau arweinyddiaeth a defnyddio tystiolaeth ymchwil.
Mae cynllun gweithlu hirdymor y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol wedi adnabod angen gref a chynyddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol cymwys yn y maes hwn, gan addo rhagolygon cyflogaeth cryf i raddedigion.
Sylwer nad oes gan y cwrs BSc hwn achrediad gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Caiff cynnwys y rhaglen hon ei lywio gan y gofynion a amlinellir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol a Datganiadau Meincnodau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer y Gwyddorau Biomeddygol.
Bydd y cwrs BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Fiomeddygol yn archwilio amrywiaeth o feysydd pwnc biomeddygol, gan gynnwys:
- Bioleg Celloedd a Phatholeg Gellog
- Ffisioleg Ddynol a Phatholeg
- Biocemeg Glinigol
- Microbioleg feddygol
- Imiwnoleg Glinigol
- Haematoleg a Gwyddorau Trallwysiadau
- Geneteg glinigol
- Ymchwil a Datblygu Ymarfer Proffesiynol
- Iechyd Poblogaethau, Iechyd y Cyhoedd a Biowybodeg
Bydd y cwrs BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Fiomeddygol (gyda lleoliad gwaith) yn cynnwys opsiwn ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant, gyda'r cyfle i gyflwyno cais am leoliad gwaith blwyddyn o hyd mewn Labordy Hyfforddiant sydd wedi'i achredu gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol. Hefyd, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i gael mynediad at flwyddyn mewn lleoliad gwaith diwylliannol i ennill profiad mewn lleoliad gwaith nad yw'n gysylltiedig â'r GIG neu dreulio blwyddyn dramor mewn lleoliad astudio.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Medi 2026
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.