Trosolwg o'r Cwrs
BSc Seicoleg – Cod UCAS C800
BSc Seicoleg gyda blwyddyn mewn diwydiant – Cod UCAS C801
MSci Seicoleg– Cod UCAS C880
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd BSc Seicoleg gyda blwyddyn sylfaen – Cod UCAS C80F
Bydd astudio Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad.
Byddwch yn astudio prosesau seicolegol a niwro-wyddonol sy’n tanategu gweithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, dysgu am effeithiau anaf i'r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella cynnydd ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi, ysgrifennu, a dadansoddi beirniadol rhagorol, yn ogystal â gallu uchel o ran rhifedd a TGCh.
Mae ein hymagwedd tuag at addysgu, sy'n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau personol, seminarau academaidd, gweithdai, a dosbarthiadau ymchwil ymarferol, yn annog medrau cyfathrebu llafar ansawdd uchel a gweithio tîm effeithiol.