Sut rydym yn rhoi cynnig i chi

Yn Abertawe, rydym yn trin ymgeiswyr fel unigolion, a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith i ddod yma.

Gallwch ddisgwyl cynigion sydd wedi'u teilwra i chi ac yn seiliedig ar yr hyn rydym yn meddwl y gallwch ei gyflawni.

Gallai hyn olygu eich bod yn cael cynnig sy'n adlewyrchu'r graddau a ragwelir i chi, ochr yn ochr â chyfle i gyflwyno cais am ysgoloriaethau rhagoriaeth i gefnogi eich astudiaethau.

Mewn rhai achosion, gallwn wneud cynnig ar lefel sy'n fwy cyraeddadwy, gan ystyried eich amgylchiadau unigol. Beth bynnag yw eich cynnig, gallwn ei deilwra gan ddibynnu ar eich anghenion personol.   

Os ydych chi'n cael cynnig gennym i astudio ar y cwrs o’ch dewis, gall y cynnig fod ar amrywiaeth o ffurfiau. Rydym wedi'u rhestru isod i'ch helpu i ddeall eich cynnig, a sut y gallwn eich cefnogi i gyflawni hyn.

Dewch o hyd i'ch cwrs a gwnewch gais

Gwnewch Gais Yma

Mathau o gynigion

Yn poeni am eich cynnig?

Rydym yn ymrwymedig i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith i Brifysgol Abertawe.

Rydym yn gwybod y gall pethau newid yn ystod y daith hon, felly gallwch chi siarad â ni unrhyw bryd am eich cynnig, a byddwn yn teilwra eich cynnig fel ei fod yn gyraeddadwy i chi.