Beth yw UCAS?

Sefydliad yn y DU sy’n gweithredu’r broses dderbyn ar gyfer prifysgolion y Deyrnas Unedig yw Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Ymhlith y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan UCAS mae sawl porth ymgeisio ar-lein, offer chwilio a gwybodaeth am ddim a chyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried addysg uwch.

Beth yw cais israddedig UCAS?

Os ydych chi yn y DU ac rydych chi eisiau astudio mewn prifysgol yn y DU, bydd rhaid ichi ddefnyddio ffurflen gais UCAS. Bydd yn rhaid ichi gofrestru a chyflwyno cais drwy system ar-lein UCAS, sef Apply. Ffurflen ar-lein deg cam yw hon y mae modd ei chyflwyno unwaith y flwyddyn academaidd yn unig.

Sut rydw i'n gwneud cais drwy UCAS? 

Ar ôl i chi benderfynu pa gwrs neu gyrsiau yr hoffech wneud cais amdanynt, gallwch chi gofrestru a chyflwyno cais ar-lein. Mae sawl math o gais, gan ddibynnu ar y math o gwrs rydych am ei astudio. Bydd angen cofrestru gydag UCAS ac yna bydd y wefan yn eich tywys drwy'r ffurflen gais fesul cam.

Faint mae'n ei gostio i gyflwyno cais i UCAS?

Mae UCAS yn codi ffi cyflwyno cais o £27 os dewiswch chi rhwng dwy a phum prifysgol, neu £22.50 ar gyfer un dewis.

Dyddiadau cae cyflwyno cais i UCAS

Pryd bydd ceisiadau i UCAS yn agor?

Ar gyfer yr ymgeiswyr sydd eisiau cael mynediad i brifysgol yn 2023, gallwch chi dalu a chyflwyno eich cais o’r 7fed Medi 2022 ymlaen.

Pryd bydd ceisiadau i UCAS yn cau?

Mae’r dyddiad cau hwn yn amrywio gan fod gan rai cyrsiau ddyddiadau cau gwahanol. Y dyddiad cau ar gyfer mynediad i brifysgol yn 2023 yn achos y rhan fwyaf o gyrsiau meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth yw 15fed Hydref 2022. Yn achos y rhan fwyaf o gyrsiau eraill y dyddiad cau yw 25ain o Ionawr 2023.

Os byddwch chi’n colli’r dyddiad cau hwyrach y bydd cyfleoedd eraill i wneud cais ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn.

Sut i lenwi'ch cais UCAS

Bydd angen ichi lenwi gwybodaeth am eich:
Manylion personol
Cyllid
Dewisiadau cwrs
Addysg
Profiad Gwaith
Geirdaon
Bydd angen ichi hefyd ysgrifennu’ch datganiad personol. Mae’ch datganiad personol yn cefnogi’ch cais i astudio mewn prifysgol neu mewn coleg ac mae’n ffordd wych o bwysleisio’ch rhinweddau personol, eich sgiliau a’r hyn rydych chi’n angerddol amdano.

Darllenwch ein canllaw ar sut i ysgrifennu datganiad personol i gael awgrymiadau a chyngor i’ch helpu drwy’r broses hon. 

Geirdaon UCAS

A yw fy ngeirdaon UCAS yn bwysig?

Gallai’ch geirda UCAS wneud byd o wahaniaeth rhwng cael eich derbyn neu’ch gwrthod, felly mae’n werth gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y geirda’n iawn!
Dylai’ch canolwr wneud sylwadau am eich gallu, eich agwedd tuag at ddysgu yn ogystal â’ch dull o wneud hyn. Cânt hefyd sôn am eich gweithgareddau a’ch profiad gwaith, felly gofalwch eu bod yn ymwybodol o bopeth rydych chi’n ei wneud. Byddan nhw hefyd yn rhestru graddau a ragwelir er mwyn helpu i staff prifysgol ddod i’r casgliad a fyddwch chi’n ymdopi’n academaidd ar y cwrs.
Siaradwch â’ch canolwr ymlaen llaw i sicrhau ei fod yn deall y prif bwyntiau rydych chi eisiau eu gwneud.

Pwy all fod yn ganolwr UCAS imi?

Dylai rhywun sy’n eich adnabod mewn ffordd broffesiynol neu academaidd ysgrifennu’r geirda. Os ydych chi yn yr ysgol neu mewn coleg, mae’n debyg mai athro, tiwtor neu bennaeth chweched dosbarth fydd y person hwn. Os gwnaethoch chi ymadael â byd addysg rywfaint o amser yn ôl, gofynnwch i’ch cyflogwr, eich goruchwyliwr neu’ch hyfforddwr.
Ddylech chi ddim gofyn i’ch teulu neu’ch ffrindiau – os gwnewch chi hyn, hwyrach y caiff eich cais ei ddileu.

Alla i anfon fy nghais i UCAS heb eirda?

Mae angen geirda ar bawb. Os na allwch chi gael geirda mae’n rhaid ichi gael caniatâd gan eich dewis brifysgolion neu golegau cyn ichi gyflwyno’ch cais.

Rhif eich cais UCAS

Pan fyddwch chi’n cofrestru drwy UCAS byddwch chi’n derbyn rhif sy’n cynnwys deg digid, a hwn fydd eich “rhif adnabod personol”. Bydd y rhif hwn yn cael ei gynnwys ar unrhyw ohebiaeth rydych chi’n ei derbyn gan UCAS.

Cadw golwg ar gynnydd eich cais UCAS

Unwaith eich bod wedi cyflwyno’ch cais gallwch chi gadw golwg ar ei gynnydd drwy fewngofnodi i system dracio UCAS. Byddwch chi’n gallu mewngofnodi ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r rhif adnabod personol a gawsoch chi yn yr e-bost croeso, ynghyd â’r cyfrinair y gwnaethoch chi ei ddefnyddio wrth gyflwyno’r cais.

Pryd y dylwn i ddisgwyl derbyn cynigion?

Mae’n syniad da cyflwyno’ch cais yn gynnar gan fod rhai prifysgolion yn dechrau gwneud cynigion o fis Medi ymlaen. Dylai pob ymgeisydd gael newyddion o fewn tair wythnos i gyflwyno’r cais. Dylai’r ymgeiswyr fewngofnodi i UCAS Hub i weld statws eu cais.

Pan fydd eich dewis brifysgol wedi gweld eich cais, bydd eich statws yn newid o ‘wedi’i gyflwyno’ i ‘wedi’i gydnabod’ ar wefan UCAS. Hwyrach y bydd angen i’ch dewis brifysgol roi cyfweliad ichi i gael mwy o wybodaeth cyn penderfynu a ydych chi’n addas ar gyfer y cwrs.
Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â’ch cwrs, byddwch chi’n cael gwybod bod rhywbeth wedi newid ar eich ffurflen gais. Naill ai byddwch chi wedi derbyn cynnig neu bydd eich cais yn cael ei nodi’n aflwyddiannus.
Gallwch chi dderbyn cynnig amodol neu ddiamod ar y wefan.

Pwyntiau Tariff UCAS

Defnyddir pwyntiau Tariff UCAS i fesur gwerth cymharol yr holl gymwysterau ôl-16. Mae Tariff UCAS yn dyrannu canlyniad rhifol i’r graddau posibl y gellir eu cyflawni fesul pob math o gymhwyster. Mae hyn yn berthnasol i’r holl gymwysterau sydd ar y Tariff.
Fodd bynnag, nid yw llawer o brifysgolion yn defnyddio'r Tariff. Dylech chi siarad â'ch athro neu'ch ymgynghorydd am eich cymwysterau a gofynion mynediad y brifysgol.

Faint o bwyntiau UCAS sydd gen i?

Gallwch chi gyfrifo faint o bwyntiau sydd gennych chi drwy ddefnyddio cyfrifiannell y Tariff ar wefan UCAS.

Sut mae pwyntiau UCAS yn cael eu cyfrifo?

Cyfrifir uchafswm y pwyntiau drwy newid cymwysterau megis graddau safon uwch (a llawer o rai eraill) yn bwyntiau. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i ddarparwyr cyrsiau gymharu ymgeiswyr.

Sut mae UCAS Adjustment yn gweithio?

Os ydych wedi bodloni a rhagori ar amodau'ch cynnig cadarn amodol, hwyrach y byddwch chi’n gallu defnyddio Adjustment i ddod o hyd i gwrs amgen. Mae hyn yn golygu y cewch chi geisio dod o hyd i le mewn prifysgol arall heb golli'ch cynnig gwreiddiol.
Gall pawb y mae ei le wedi’i gadarnhau gofrestru ar gyfer Adjustment. Os penderfynwch chi fynd drwy Adjustment, bydd angen i chi gofrestru, ymchwilio, trafod a chytuno ar y manylion gyda'r brifysgol. Yna byddan nhw’n anfon cadarnhad i UCAS. Mae Adjustment ar agor o ddiwrnod canlyniadau'r arholiadau Safon Uwch tan ddiwedd mis Awst.