Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i ddarparu pob cwrs yn unol â'r disgrifiadau a geir yn nhudalennau gwe'r cwrs perthnasol ar adeg eich cais. Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu'n angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs naill ai cyn neu ar ôl cofrestru.

Mae'r wybodaeth isod ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2016 neu wedi hynny.

Fel arfer, ni fydd y Brifysgol  yn gwneud newidiadau sylweddol iawn i gyrsiau (er enghraifft, newid teitl y cwrs, ailstrwythuro sylweddol, newid sylweddol yng nghynnwys y cwrs, neu gyflwyno rhwystr i ddilyniant) a fyddai'n effeithio ar fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau eu cwrs. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall fod angen i'r Brifysgol wneud y fath newid ar ôl i ddeiliad cynnig dderbyn lle. Ni fydd hyn yn digwydd llai na 5 mis cyn cofrestru. Caiff deiliad y cynnig ei hysbysu am y newid a chyfle i dynnu ei gais yn ôl a gwneud cais i sefydliad arall.

Gellid gwneud newidiadau eraill yng nghynnwys y cwrs, y lleoliad astudio, y dulliau cyflwyno a'r ddarpariaeth addysgu oherwydd datblygiadau yn y pwnc dan sylw, gwelliannau i arfer addysgu neu asesu, gofynion prosesau achredu allanol, newidiadau staffio, cyfyngiadau o ran adnoddau neu newidiadau o ran argaeledd cyfleusterau. Bydd newidiadau o'r fath yn ystyried disgwyliadau rhesymol darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.

Hysbysir deiliaid cynigion am unrhyw newidiadau o bwys a chânt gyfle i dynnu'n ôl o'r cwrs.