Ewch yn Fyd-eang gyda Phrifysgol Abertawe

Fel myfyriwr Prifysgol Abertawe, mae llawer o opsiynau ar gael i chi ennill profiad rhyngwladol. Ydych chi erioed wedi ystyried astudio dramor am semester neu flwyddyn fel rhan o'ch gradd? Neu efallai dreulio rhywfaint o'r haf ar raglen wirfoddoli neu interniaeth dramor? Dilynwch y dolenni isod i chwilio drwy'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i chi, yn dibynnu ar y cwrs rydych yn astudio. Gall yr opsiynau sydd ar gael i chi ddibynnu ar fanylion setliad BREXIT a negodwyd gan Lywodraeth y DU.