Mae 100% o'n Hymchwil Seicoleg yn Rhagorol yn Rhyngwladol ar gyfer Effaith

REF2021

MRI Scanner

Mae ein hymchwil yn mabwysiadu safbwynt trosi gyda'r nod o ddeall problemau o bwysigrwydd cymdeithasol i lywio'r drafodaeth bolisi ddilynol ac ysgogi newid mewn ymddygiad. Ein nod ni yw magu dealltwriaeth empirig o brosesau seicolegol cymhleth cyn allosod ein canfyddiadau i heriau cymdeithasol sylweddol. Mae ein pwyslais ni ar lwybrau ymchwil o'r labordy i'r byd go iawn yn ein galluogi ni i greu modelau a dadansoddiadau sy'n llywio datblygiad technegau asesu ac ymyrraeth ar gyfer defnydd eang.

Uchafbwyntiau Ymchwil Seicoleg

Nod ymchwil yn yr ysgol Seicoleg yw cael effaith ar driniaeth cyflyrau iechyd corfforol a meddwl cyffredinol. Mae themâu'r adran wedi bod yn allweddol i'n heffaith drosi, gan wella canlyniadau i gleifion, poblogaethau a dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol meddygol ac iechyd cyhoeddus.

Mae ein dealltwriaeth o brosesau seicolegol a'n cymuned ymchwil ffyniannus wedi'u seilio ar ddwy thema ymchwil eang, ac wedi arwain i ni ddod yn hyb ar gyfer rhagoriaeth ymchwil ryngddisgyblaethol wedi'i chefnogi gan ein hagosrwydd corfforol i bartneriaid allweddol ym maes Iechyd, Gwyddor Bywyd a Meddygaeth. Rydym yn datblygu dealltwriaeth empirig o effaith gymdeithasol a pholisi mewn meysydd sy'n amrywio o ordewdra a maeth, gamblo a chaethiwed ymddygiad, seicoleg fforensig a chlinigol, niwroddelweddu a gwybyddiaeth.

Gwella Asesu Canlyniadau Cleifion sydd wedi cael Niwed i'r Ymennydd

Mae mwy na 1.3 miliwn o bobl yn y DU yn byw gydag effeithiau tymor hir dioddef niwed i'r ymennydd (ABI). Mae ABI yn anaf i'r ymennydd a ddigwyddodd ers genedigaeth, boed mewn damwain ar y ffordd neu drwy gwympo neu gael strôc. Nod yr ymchwil hon yw sicrhau bod gan weithwyr iechyd yr arfau i ddarganfod anabledd niwroymddygiadol yn ddibynadwy. Mae’r arf hon (Graddfa Canlyniad Niwroymddygiadol Abertawe - St. Andrew's) wedi cael ei mabwysiadu yn eang yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a bellach, mae wedi'i gwreiddio mewn systemau cofnodion cleifion electronig.

Gwella Cymorth Seicolegol ar gyfer Straen sy'n Gysylltiedig ag Iechyd

Mae Thrombo-emboledd Gwythiennol (VTE) wedi'i ddiffinio fel tolchenni gwaed sy’n achosi marwolaeth, neu a allai achosi marwolaeth, yn y corff. Mae gan brofiad o VTE nodweddion digwyddiad sy'n debygol o achosi gofid seicolegol sylweddol. Roedd ymagwedd dau linyn at yr ymchwil hon, gyda'r llinyn cyntaf yn nodi maint y broblem a'r ail yn archwilio effeithiau seicolegol VTE. Mae gwaith yr Athro Bennett wedi’i gydnabod fel gwaith y mae'n rhaid iddo fod wrth wraidd datblygu safonau gofal i gleifion VTE, ac mae byrddau iechyd wedi rhoi darpariaeth seicolegol ar waith i gleifion o ganlyniad uniongyrchol i'r ymchwil hon.

Cymorth ar gyfer Anhwylder Cyhyrau Llawr y P

Mae anhwylder cyhyrau llawr y pelfis (PFD) yn effeithio 25% o fenywod yn rhyngwladol. Mae ffisiotherapi yn driniaeth effeithiol, ddiogel a chost-effeithiol. Serch hyn, mae nifer o fenywod ddim yn cwblhau neu fynychu eu sesiynau. Darganfododd Professor Reed bod 50% o’r rheini a oedd yn dioddef o PFD ddim yn mynychu triniaeth. Roedd cleifion a oedd hefyd yn ddioddef iselder neu bryder (tua 30% o’r grŵp hyn) yn llai tebygol o gwblhau triniaeth, ac yn dioddef o ganlyniadau gwaeth, hyd yn oed ar ôl cwblhau triniaeth.

White dice and gambling chips

Gamblo fel Hwyl Ddiniwed?

Mae gamblo (sy'n cael ei ddiffinio fel betio ar ganlyniad ansicr, fel arfer am arian) mor hen ag amser ei hun. Er y gall y rhan fwyaf o bobl fwynhau betio'n achlysurol ar gêm bêl-droed neu ymweld â chasino heb ddatblygu problem, gall lleiafswm sylweddol ei chael hi'n anodd rhoi cyfyngiadau ar eu gamblo.

Nod ein hymchwil ni yw nodi'r bobl hynny a allai fod mewn perygl o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, archwilio mecanweithiau niwroymddygiad sy'n sail i ddechrau a chynnal problemau gamblo a datblygu ffurfiau o driniaeth glinigol arloesol. Rydym wedi mabwysiadu safbwynt trosi a gymhwysir yn sylfaenol lle caiff problemau gamblo neu nodweddion penodol o gemau gamblo eu modelu mewn ffordd arbrofol yn y labordy gwyddoniaeth sylfaenol cyn eu trosi a'u cymhwyso i gamblo byd go iawn.

menyw ar garreg

Gorbryder ac Atal: yn ddiogel o niwed?

Mae dysgu am yr hyn sy'n rhagddweud bygythiadau a'r hyn nad yw’n gwneud hynny yn ein helpu i oroesi. Wrth wynebu sefyllfaoedd newydd, mae profiad gyda bygythiadau tebyg yn gymorth i ni. Fodd bynnag, gallai pobl sy'n agored i orbryder ddibynnu'n ormodol ar un profiad amhleserus wrth ymateb i sefyllfaoedd gwahanol.

Mae 'byw mewn ofn' yn atal cyfleoedd sy'n gwrthbrofi; yn hytrach nag aros i weld a fydd rhywbeth gwael yn digwydd, rydym yn dewis ymagwedd “gwell diogel nac edifar”. O ganlyniad, mae effaith niweidiol ar ansawdd ein bywyd ac mae ein hiechyd meddwl yn dioddef. Mae dod dros y tueddiad ataliol hwn yn nodwedd gyffredin o therapi ymddygiad ac mae'n nodwedd graidd o anhwylderau megis anhwylderau sy'n ymwneud â gorbryder, anhwylderau gorfodaeth obsesiynol ac anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD).

Ymunwch â'n Cymuned Ymchwil

Mae'r ymchwil rydym yn ei gwneud yn cefnogi ethos sy'n seiliedig ar ddiwylliant o gysylltedd, o'r ymchwil rydym yn ei gwneud i'r cyfleoedd rydym yn eu creu ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar. Mae ein hymchwil yn cael effaith fyd-eang ac mae'n sylfaen ddelfrydol i lansio gyrfa ymchwil. Elfen hanfodol o’r holl weithgarwch hwn yw cyfranogiad cleifion a darparwyr gofal yn ein gwaith, gan sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd i'r heriau sy'n wynebu ein cymdeithas.

Bydd ein rhaglenni gradd ymchwil yn eich helpu i: ddatblygu gyrfa yn y byd academaidd, gwella eich rhagolygon cyflogaeth, datblygu eich sgiliau mewn gyrfa broffesiynol benodol neu gallech ddewis dilyn rhaglen ymchwil sy'n seiliedig ar eich diddordebau personol chi.