Arloesi lles cyfannol arloesol

YR HER

Ar hyn o bryd, mae systemau cymdeithasol allweddol, gan gynnwys sefydliadau gofal iechyd, addysg a chymunedol, yn aml yn gweithredu ar wahân. Mae'r systemau hyn yn tueddu i flaenoriaethu eu hamcanion penodol, cul, dros ymagwedd fwy integredig at les. Er enghraifft, gall gofal iechyd ganolbwyntio ar leddfu symptomau, addysg ar barodrwydd am waith a sefydliadau cymunedol ar brosiectau lleol. Caiff y sefyllfa ei dwysáu gan fethiant cyffredinol i weithio mewn partneriaeth. Yn y bôn, mae'r ffocws cul hwn yn amharu ar ein potensial cyfunol ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy ac iach mewn byd ôl-dwf.

Y DULL

Wedi'n harwain gan ein fframwaith damcaniaethol o les unigol, cyfunol a phlanedol a'n cefnogi gan gyllid cystadleuol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym yn gweithio tuag at atebion cyfannol, ar sail gweithredu, i heriau cymhleth a systemig, atebion a fydd yn hwyluso ffyniant dynol ar raddfeydd lluosog.

Rydym yn mabwysiadu ymagwedd ar sail ymchwil, gan hwyluso cylch dynamig sy'n atgyfnerthu ei hun, lle mae ymyriadau damcaniaethol ac ymarferol yn llywio ei gilydd.

Ym maes gofal iechyd, rydym wedi cyflwyno ymyriad seicotherapi cadarnhaol wedi'i dargedu ar gyfer cleifion ABI ar draws tri bwrdd iechyd yn ne Cymru.

Mae'r datblygiadau hyn wedi llywio datblygiadau yn y sector addysg, gan arwain at gwrs lles arloesol ar gyfer myfyrwyr israddedig.

Mae gweithio'n agos gyda phartneriaid cymunedol wedi ein galluogi i fanteisio ar adnoddau sydd ar gael yn lleol, gan arwain at gyfleoedd heb eu dychmygu o'r blaen, megis ein hymyriad therapi syrffio ar gyfer pobl sy'n byw gydag anaf caffaeledig i'r ymennydd, a'n prosiect amaethyddol â chymorth cymunedol ar gyfer y gymuned ehangach.

YR EFFAITH

Mae effaith drawsnewidiol ein fframwaith damcaniaethol yn amlwg, gan sbarduno newid systematig ar draws sefydliadau gofal iechyd, addysg a chymunedol.

Ym maes gofal iechyd, mae ein mentrau wedi hwyluso trawsnewidiad yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a'u cynllunio. Mae'r gwaith hwn wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Ymrwymiad i Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn 2018 a 2023. Mae hefyd wedi cael ei ganmol gan lunwyr polisi allweddol megis y Farwnes Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru (2019), a Dr Chris Jones, Dirprwy Swyddog Meddygol Cymru (2017).

Yn y sector addysgol, mae ein gwaith wedi dylanwadu ar arferion addysgol systemig, a chafodd ei gydnabod yng Ngwobrau Prifysgolion The Guardian am Effaith Gymdeithasol ac enillodd Wobr Ymchwil ac Arloesi gan Brifysgol Abertawe am Effaith Neilltuol ar Iechyd a Lles yn yr un flwyddyn. Yn ddiweddarach, mae ein gwaith wedi cael ei gynnwys yn Advance HE Compendium on Embedding Health and Wellbeing in the Curriculum (2023) ac mae'n dylanwadu ar ymagweddau addysgol mewn dros 400 o sefydliadau.

Mae cwmpas ein heffaith yn lleol ac yn fyd-eang, ac mae wedi cael ei ganmol gan gymheiriaid academaidd sydd wedi disgrifio ein gwaith am fod "ar flaen y gad ym maes gwaith trawsddisgyblaethol cymhwysol o'r iawn ryw".

Arweinydd ymchwil

Zoe Fisher

Zoe Fisher
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod cynaliadwy y CU - Iechyd
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe