Prinder gweithwyr gofal iechyd hyfforddedig yn Zambia

YR HER

Mae Zambia yn wlad incwm isel y nododd Sefydliad Iechyd y Byd fod ganddi brinder difrifol o weithwyr iechyd hyfforddedig. Mae llai nag un meddyg neu un nyrs ar gyfer pob 1000 o bobl, ac mae'r prinder cronig hwn o weithwyr iechyd proffesiynol hyfforddedig yn cyfyngu'n ddifrifol ar allu Zambia i ddarparu gofal meddygol o safon a diogel i'w phoblogaeth. Nod y prosiect hwn yw mynd i'r afael â phrinder gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n ddigonol yn Zambia.  

Y DULL

I ymdrin â'r materion hyn, bu Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â SolidarMed Zambia, corff anllywodraethol o'r Swistir sy'n gweithio yn Ne'r Byd i helpu i gryfhau systemau gofal iechyd a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd. 

Yn ddiweddar, mae SolidarMed wedi adeiladu nifer o ganolfannau sgiliau clinigol newydd yn Zambia a darparu cyfarpar iddynt. Canolfannau yw'r rhain lle gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael eu hyfforddi neu wella eu sgiliau mewn amgylchedd nad yw'n achosi perygl i gleifion. Gall myfyrwyr ymarfer technegau clinigol, megis gosod caniwla mewn amgylchedd a reolir, gan ddefnyddio modelau arbenigol a modelau anatomegol. Felly, gall y myfyrwyr berffeithio technegau achub bywydau mewn modd diogel dan arweiniad hyfforddwr arbenigol heb y pwysau o ymarfer ar gleifion byw a heb berygl i gleifion. 

Mae dylunio a chyflwyno addysgu mewn canolfannau sgiliau clinigol yn galw am sgiliau a strategaethau addysgu gwahanol, ac nid yw'r hyfforddiant ar gyfer y rhain ar gael yn gyffredinol yn Zambia.  Felly, cysylltodd SolidarMed ag Abertawe oherwydd ei henw da rhyngwladol ym maes Addysg Feddygol ac Efelychu Clinigol. 

Ym mis Gorffennaf 2023, ymwelodd academyddion o'r Ysgol Feddygaeth â Zambia i gynnal gweithdy tri diwrnod i feddygon, nyrsys a bydwragedd. Canolbwyntiodd hwn ar ddylunio a chyflwyno hyfforddiant gofal iechyd gan ddefnyddio cyfarpar sgiliau clinigol a senarios efelychu, a fyddai’n rhoi i’r cyfranogwyr yr arbenigedd a'r sgiliau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleusterau newydd sy'n cael eu hadeiladu gan SolidarMed. 

Cynhaliwyd y prosiect ar y cyd â SolidarMed Zambia ac ariannwyd yr ymweliad drwy grant gan gynllun grantiau Cymru-Affrica Llywodraeth Cymru.

YR EFFAITH

Bu 26 o unigolion o bob rhan o Zambia yn cymryd rhan yn y gweithdy ac roedd eu hadborth yn hynod gadarnhaol: 

  • Dywedodd 100% ohonynt fod y gweithdy wedi gwella eu hyder i ddechrau neu ehangu efelychiadau ar sail senario yn eu hyfforddiant 
  • Dywedodd 70% y byddent yn rhoi eu gwybodaeth ar waith am sut i gynnal ôl-drafodaeth gyda’u myfyrwyr yn effeithiol yn eu hyfforddiant 
  • Dywedodd y 26 cyfranogwr y byddent yn defnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau newydd i hyfforddi dros 5,000 o fyfyrwyr yn y flwyddyn i ddod 

Yn dilyn y gweithdy, sefydlodd y cyfranogwyr eu rhwydwaith eu hunain a fydd yn eu galluogi i drafod profiadau a rhannu arferion gorau, a chânt eu cefnogi gan dîm y prosiect i ddatblygu rhwydwaith efelychu clinigol cyntaf Zambia.  Mae'r tîm yn Abertawe'n cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â SolidarMed a chyfranogwyr y gweithdy i gynnig arweiniad a chymorth, ac mae gweithdy hyfforddiant uwch yn yr arfaeth.

Dyfyniadau gan gyfranogwyr: 

"Roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r gweithdy ac mae hyn wedi bod yn brofiad hyfryd a fydd yn fy helpu i wella fy addysgu. Dwi wedi dysgu pwysigrwydd bod yn hwylusydd i fy myfyrwyr, gan roi iddyn nhw le i ddod o hyd i'w hatebion eu hunain, a fydd yn eu galluogi i ddysgu'n well."  Priscilla Mutetwa Banda, Hyfforddwr Clinigol, Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth Nchanga, Chingloa, talaith Copperbelt

"Dwi wedi mwynhau'r gweithdy’n fawr ac mae wedi amlygu i mi bwysigrwydd addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr a rhoi adborth heb feirniadu er mwyn galluogi myfyrwyr i wireddu eu potensial." Dr Clive Kayumba, Uwch-swyddog Preswyl, Ysbyty Cyffredinol Kafue 

"Agorodd y gweithdy fy meddwl i bwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu i fyfyrwyr, a phwysigrwydd deall beth sy'n digwydd ym meddyliau ein dysgwyr.” Pauline Chuunga, Uwch-ddarlithydd, Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth Kafue 

"Roedd y gweithdy'n llwyddiant ysgubol a chydweithiodd ein hyfforddwyr clinigol o Zambia mor frwd â'r tîm o Brifysgol Abertawe. Gyda chymorth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae SolidarMed yn awyddus i weld Zambia yn arwain hyfforddiant efelychu clinigol yn y rhanbarth ac rydyn ni a'n partneriaid yn Zambia yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o Abertawe yn y dyfodol." Dr Petros Andreadis o SolidarMed

 

Ymchwilydd Cysylltiol

Dr David Lee

Dr David Lee
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health

Hoffech chi gydweithredu?

Cysylltwch â ni i ddysgu sut gallwch gydweithredu â ni drwy ymchwil

Cancer cells close up