Defnyddio 'Data Mawr' i leihau ac atal hunan-niweidio a hunanladdiad

Rydym yn helpu i atal hunan-niwed a hunanladdiad

Rydym yn helpu i atal hunan-niwed a hunanladdiad

Y Her

Mae hunanladdiad yn un o brif achosion marwolaeth cyn pryd, gyda dros 800,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn fyd-eang o ganlyniad i hunanladdiad. Yn anaml y mae yna un rheswm pam y mae rhywun yn ei ladd ei hun. Gellir deall hyn orau trwy amgylchiadau bywyd pob unigolyn, mewn rhyngweithiad gweithredol o ffactorau risg a phrofiadau niweidiol. Fodd bynnag, mae'n bosibl atal hunanladdiad trwy ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd ar draws sectorau megis ysgolion ac iechyd, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd.

Y Dull

Mae'r Athro Ann John yn arwain tîm o ymchwilwyr sydd â diddordeb yn y modd y gellir defnyddio “Data Mawr dienw” i nodi patrymau a dangosyddion risg bosibl, ac yna ddefnyddio'r marcwyr hyn i lywio polisi, protocolau a chanllawiau ar gyfer y rhai sydd mewn cysylltiad â'r rheiny sydd mewn perygl o'u niweidio neu eu lladd eu hunain.

Wrth fyw ein bywydau bob dydd, mae pob un ohonom yn gadael ôl troed data mewn data a gesglir fel mater o drefn, sef set o batrymau ar draws sectorau gwahanol. Trwy gadw'r data hyn mewn Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy, gellir eu cysoni ag unigolion dienw a'u defnyddio i nodi cysylltiadau ac ymddygiadau sy'n amlygu'r rheiny a allai elwa o ymyriadau i atal hunan-niwed a hunanladdiad.

Mae ymchwil yr Athro John yn edrych ar ddata dienw sy'n cysylltu ar draws sectorau, o Bresenoldeb ac Absenoldebau mewn Ysgolion, Cyflawniad mewn Arholiadau ac Apwyntiadau Meddygol â meddygon teulu neu yn yr ysbyty, i'r cyfryngau cymdeithasol, Google Analytics a dulliau adrodd yn y cyfryngau. Er na chaiff y data hyn fyth eu cysylltu ag unigolyn a enwir, gall patrymau ymddygiadau nifer o unigolion greu darlun o'r modd y gellir cynllunio ymyriadau, rhoi protocolau ar waith, a datblygu polisïau i helpu i lywio a hyfforddi gweithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad â'r rheiny sy'n hunan-niweidio neu sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad.

Yr Effaith

  • Mae'r wybodaeth hon, a gesglir ac a ddadansoddir gan yr Athro John a'i thîm, wedi cael ei defnyddio i lywio'r broses o Ddatblygu Polisi Llywodraeth ac i ddarparu Canllawiau i Athrawon, Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sy'n ymateb i'r rheiny sy'n meddwl am hunanladdiad neu sy'n hunan-niweidio.
  • Aeth ati i gyd-arwain yr Astudiaeth Fyd-eang ar Hunanladdiad a'r Adolygiad Systematig Byw yn ystod pandemig COVID-19, a oedd yn ganolog i'n dealltwriaeth o effaith y pandemig ar hunanladdiad ac ymddygiadau hunanladdol yn fyd-eang.
  • Mae'r Athro John yn cyflwyno tystiolaeth ar hunanladdiad a hunan-niweidio i bwyllgorau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, fel ei gilydd, er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer y rhai sy'n profi Salwch Meddwl a meddyliau hunanladdol neu sy'n hunan-niweidio.
  • Defnyddiwyd y ddirnadaeth o Iechyd Meddwl, Hunan-niweidio a Hunanladdiad i lywio Straeon ar gyfer Hollyoaks, Casualty, Coronation Street a chyfres y BBC This is Going to Hurt, er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth gyhoeddus, lleihau disgrifiadau niweidiol o hunanladdiad sy'n gysylltiedig â dynwared, ac annog dulliau adrodd cyfrifol (megis disgrifiadau o bobl yn trechu argyfwng hunanladdol) a allai fod yn amddiffynnol yn achos ymddygiadau hunanladdol, lleihau stigma, a chynyddu nifer yr unigolion sy'n gofyn am help.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe