Creu nodwyddau nad ydynt yn brifo

Rydym yn creu nodwyddau di-boen

Person holding a needle

Yr Her

Gall nodwyddau hypodermig traddodiadol fod yn frawychus a brifo plant ac oedolion. Gan fod angen monitro lefelau glwcos gwaed cleifion â diabetes, gallai cydymffurfiaeth cleifion, a’u canlyniadau o ganlyniad, ddioddef. Yn ogystal, mae micronodwyddau’n cael eu datblygu ar gyfer cymwysiadau wrth ddarparu cyffuriau trawsgroenol a chlytiau brechiadau.

Mae micronodwyddau wedi cael eu datblygu ym mhedwar ban byd. Fodd bynnag, mae problemau megis y cyfaint sydd ar gael i gaenu cyffur i arwyneb micronodwydd yn ogystal â chael blaen sy’n ddigon miniog i dreiddio i'r croen yn parhau i fod yn heriol.

Y Dull

Mae'r Athro Owen Guy a thîm o ymchwilwyr sy’n gweithio gyda SPTS Technologies yng Nghasnewydd, yn datblygu micronodwyddau o silicon.

Yn gyffredinol, mae silicon yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant lled-dargludyddion ar gyfer dyfeisiau sy’n mynd i mewn i bopeth, o geir i ffonau clyfar.

Rydym ni’n defnyddio offer arbenigol gan SPTS Technologies i ysgythru ar haenau tenau er mwyn datgelu’r siafft a blaen peflog y micronodwyddau.

Dim ond 1mm o uchder a chyda diamedr o 0.2mm, mae gan y micronodwyddau flaen peflog miniog iawn a thwll main sy’n galluogi rhoi cyfaint mwy o’r cyffur gydag ychydig iawn o boen neu ddim poen o gwbl.

Mae’r prosiect wedi elwa ar gyllid gan yr ESPRC ac Innovate UK mewn cydweithrediad â diwydiant

Yr Effaith

  • Gellir defnyddio'r micronodwyddau hyn fel dyfais ddiagnostig ar gyfer clefydau megis diabetes mewn cyfuniad â system rhoi cyffuriau. Os cânt eu gwreiddio mewn clwt y gellir ei wisgo, gallai’r micronodwydd ddiagnosio cyfaint y glwcos yn y gwaed a rhoi'r cyfaint priodol o inswlin. Gallai hyn wella cyfaint y cyffur a roddir i’r claf a allai arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.
  • Mae natur ddifewnwthiol a di-boen y micronodwyddau hyn yn annog cydymffurfiaeth a chanlyniadau gwell i’r claf. Yn ogystal, mae cyfleoedd cyffrous i ddyfeisiau micronoddwyddau hefyd wrth roi brechiadau.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe