Galluogi arbed costau ac atal a rheoli oedema cronig yn well

Rydym yn helpu i wella gofal am oedema cronig ac i reoli achosion yn well

Rydym yn helpu i wella gofal am oedema cronig ac i reoli achosion yn well

Yr Her

Mae lymffoedema yn gyflwr (cronig) hirdymor sy'n achosi ymchwyddo ym meinweoedd y corff. Mae lymffoedema yn effeithio ar dros 200,000 o bobl yn y DU, a thua 2 o bob 10 person sy'n dioddef o ganser y fron a 5 o bob 10 person sydd â chanser y fylfa ledled y byd.

Mae cleifion â lymffoedema mewn llawer mwy o berygl o ffurfio clwyf. Gall hyn ddigwydd yn sgîl heintio, casglu lleithder, a heintio ffyngaidd ym mhlygion y croen, yn ogystal â thrawma. Felly, mae gofalu am y croen a chlwyfau'n dda a chydymffurfio â chywasgu i gyd yn ffactorau pwysig wrth leihau'r risg o ddatblygu rhagor o gymhlethdodau.

Gwnaeth ein hymchwil adeiladu ar ymchwil flaenorol gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe, a dangosodd fod clwyfau'n creu baich economaidd sylweddol i'r GIG a bod clwyfau cronig sy'n gysylltiedig â lymffoedema yn cyfrannu'n fawr at y broblem.

Y Dull

Gwnaeth Rhwydwaith Lymffoedema Cymru gysylltu â ni i weithio ar ddadansoddiad economaidd o'r gwasanaeth lymffoedema, gan gynnwys y ddarpariaeth addysg leol newydd (OGEP). Datblygwyd hon fel model addysg gymunedol gan ddefnyddio cymwysiadau rhagnodi fideo a rhaglen hyfforddi addysgwyr er mwyn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yn y gymuned a chleifion wrth reoli oedema cronig a gofalu amdano.

Defnyddiodd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru ein data er mwyn lobïo am £1.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal gwasanaeth newydd ledled Cymru a oedd yn cynnwys ehangu rhaglen yr OGEP a 'Llwybr y Goes Wlyb'. Mae 'Llwybr y Goes Wlyb' yn ddull a ddeilliodd o'r gwaith o gyflwyno rhaglen yr OGEP. 

Ers hynny, mae ein canfyddiadau wedi dangos arbedion amcangyfrifedig o hyd at £24,460,000 y flwyddyn gan y gwasanaeth newydd. Roeddem yn gallu profi bod ymagwedd rhaglen yr OGEP yn arwain at arbedion o ran costau uniongyrchol gyda:

  • nyrsys ardal yn ymweld â chartrefi'n llai aml (gostyngiad o 53%), a arweiniodd at gyflwyno'r gwasanaeth yn fwy effeithiol o ran y gost, 
  • gwahaniaeth gwerth 63% o ran costau'r rhwymynnau.

Yr Effaith

Defnyddiodd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru y dystiolaeth o'r ymchwil i lobïo adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn llwyddiannus i ariannu ymlediad Llwybr y Goes Wlyb ledled Cymru.

Mae ein hymchwil wedi rhoi amcangyfrifon cywir i Lywodraeth Cymru a chlinigwyr yn seiliedig ar dystiolaeth wreiddiol o faich economaidd lymffoedema. Hefyd, rydym wedi darparu tystiolaeth o'r arbedion cost sydd wedi deillio o ymagweddau mwy effeithlon at asesu a rheoli lymffoedema mewn cleifion sy'n derbyn gofal cynradd ac eilaidd.

Mae ein hymchwil wedi chwarae rhan bwysig mewn

  1. newidiadau polisi ar sail tystiolaeth,
  2. darparu tystiolaeth ar gyfer gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe