Rydym yn cydweithredu ag arweinwyr byd-eang ym meysydd awtoimiwnedd

Imiwnoleg a lewcemia

celloedd T

Y Her

Casgliad o gelloedd gwynion yn ein system imiwnedd yw celloedd T, ac maent yn hanfodol i'n hamddiffyn ni rhag clefydau. Mae celloedd T yn prosesu ein tanwyddau deietegol (e.e. carbohydradau, protein a braster) i gynhyrchu'r egni a'r blociau adeiladu y mae eu hangen i greu a chynnal ymateb imiwnedd llwyddiannus. Enw'r broses hon yw metabolaeth celloedd imiwnedd. Yn anffodus, mae celloedd T yn gamweithredol mewn cyflyrau penodol megis anhwylderau awto-imiwn amrywiol (e.e. arthritis gwynegol a lwpws *) a chanser (e.e. lewcemia lymffoblastig acíwt celloedd T **). O ganlyniad i'r camweithrediad hwn, mae gan gelloedd T sy'n deillio o'r cleifion hyn fetabolaeth sydd wedi'i newid. Y newyddion cyffrous yw, gallai targedu'r proffil metabolig diwygiedig hwn, naill ai yng nghyd-destun awtoimiwnedd neu lewcemia, arwain at ddatblygu cyffuriau newydd sy'n cael eu defnyddio'n glinigol yn y pen draw.

*Amcangyfrifir yn fyd-eang bod 5 miliwn o bobl yn byw gyda'r clefyd awto-imiwn Lwpws a bod 18 miliwn o bobl eraill yn byw gydag arthritis gwynegol. **Yn y DU, ceir 791 o achosion o lewcemia lymffoblastig acíwt bob blwyddyn ar gyfartaledd, yn bennaf yn effeithio ar blant ifanc iawn rhwng 0 – 4 blwydd oed.

Dull

Mae Dr Nick Jones a'i grŵp yn ymchwilio i (i) gyffuriau newydd sy'n targedu llwybrau metabolaidd mewn celloedd T camweithredol ac (ii) yn addasu cyffuriau sydd ar gael yn glinigol h.y. eu defnyddio nhw mewn lleoliad ar wahân i'r un y cawson nhw eu gwneud ar ei gyfer. Rydyn ni'n cydweithredu ag arweinwyr byd-eang ym meysydd awtoimiwnedd, imiwnoleg a lewcemia.

Yr Effaith

  • Mae'r tîm wedi darganfod bod addasu cyffur o'r enw canagliflozin, a ddefnyddir yn gyffredin i drin diabetes math 2, yn atal celloedd T (naill ai rhai sy'n dod o gleifion awto-imiwn neu gelloedd T lewcemia) rhag gweithio.
  • Gall y cyffur fod yn ddefnyddiol wrth drin anhwylderau awto-imiwn, fel a gyhoeddwyd yn Cell Metabolism ac wedi'i gefnogi gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC). 
  • Mae gwaith yn cael ei wneud ar ochr y prosiect sy'n ymwneud â lewcemia celloedd T ac mae'r gwaith hwn wedi'i gefnogi gan y Grŵp Canser a Lewcemia Plant a’r Little Princess Trust.
  • Gobeithir y bydd y ddau brosiect yn datblygu hyd at dreialon clinigol.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod cynaliadwy y CU - Iechyd
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe