Gwella Effeithlonrwydd Proses Gwasanaeth Gwaed Cymru a Phrosesu Gwaed Rhyngwladol

Rydym yn gwella'r broses yn wasanaethau gwaed

Blood bag

Y Her

Cafodd tîm ymchwil Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe fynediad at Wasanaeth Gwaed Cymru i gymhwyso a datblygu dulliau gweithio main ar draws y sefydliad. Bydd sefydliad sy'n mabwysiadu ffyrdd main o weithio'n gwneud y defnydd gorau o'r amser a'r adnoddau sydd ar gael, gan arwain at leihau (neu hyd yn oed  waredu) gwastraff. Y canlyniad yw llif diderfyn o roddion i dderbynwyr.

Y Dull 

Ystyriodd y tîm ymchwil system gyfan y GIG o safbwynt taith claf (o gyswllt cychwynnol i ddiagnostig, ymyriadau, gofal etc), a nodi prosesau allweddol cyflenwi gwaed ac organau i'r GIG fel meysydd astudio pwysig. Arweiniodd y gwaith hwn at bartneriaeth a ddatblygwyd gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru a roddodd gyfle pellach am ymchwil gymhwysol a chyd-ddylunio gweithgareddau gwella.

Yr Effaith

O ganlyniad i'r ymchwil hon, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymgysylltu ag ystod eang o welliannau cyflwyno gwasanaeth, gan gynnwys:

  • ail-drefnu mannau gwaith i wella amser prosesu; digideiddio ffurflenni sydd wedi arbed amser ac arian;
  • gwella safonau gweithdrefnau gweithredu wrth gynnal lefelau uchel o ddiogelwch a rheoli ansawdd;
  • a chreu mannau gweithio wedi'u dylunio'n ergonomig sy'n cynnwys yr holl gyfarpar gofynnol gan dechnegwyr labordai mewn un lle (gweithio 'pod' cellog);
  • hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth gyda staff.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru a thîm ymchwil yr Ysgol Reolaeth hefyd wedi helpu i ddatblygu offer mapio (sydd, hyd yn hyn, wedi cael eu defnyddio gan Wasanaeth Gwaed Cymru i fapio'r holl brosesau gweithredu) a chreu cyfres o fodiwlau ar-lein ar gyfer Lwfans Gwaed Ewrop (EBA). Mae'r modiwlau hyn ar gael i holl gyrff aelodau'r EBA ar draws yr UE (40,000 o weithwyr proffesiynol yn y sector). Yn y bôn, mae'r gwaith hwn wedi cyfrannu at wella canlyniadau i gleifion ac effeithlonrwydd gweithredu.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe