Proffil Adwaith Niweidiol i Gyffuriau (ADRe)

Rydym yn monitro effeithiau meddyginiaethau ar bresgripsiwn

Rydym yn monitro effeithiau meddyginiaethau ar bresgripsiwn

Yr Her

Mae monitro annigonol o gleifion ar gyfer effeithiau niweidiol meddyginiaethau iechyd meddwl yn achos pwysig o niwed i gleifion. Ym mhob grŵp oedran, mae effeithiau niweidiol y gellir eu hatal yn mynd heb sylw, ond maent yn arwain at niwed go-iawn.

Byddai modd atal rheolaeth wael o feddyginiaethau llawer gwell, gan gynnwys gor-bresgripsiynu a than-bresgripsiynu, gyda rhagor o waith monitro cleifion penodol a ffurfiol, yn enwedig mewn cartrefi gofal.Mae’r Proffil Adwaith Niweidiol i Gyffuriau (ADRe) yn nodi ac yn mynd i’r afael â’r effeithiau niweidiol y gall meddyginiaethau iechyd meddwl eu cael ar gleifion, gan atal pobl rhag cael eu gadael mewn poen, wedi’u tawelyddu, wedi’u drysu, yn ymosodol neu allan o wynt.Hefyd mae’n atal problemau rhag gwaethygu fel bod angen aros yn yr ysbyty.

Mae ADRe’n helpu rhan fwyaf y cleifion sy’n ei ddefnyddio, rhai yn fwy nag eraill.Mae ADRe’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae wedi bod yn effeithiol mewn treialon:gwnaeth leihau presgripsiynau meddyginiaethau iechyd meddwl a gwella symptomau, gan gynnwys poen.

Y Dull

Mae’r Proffil Adwaith Niweidiol i Gyffuriau (ADRe) yn nodi ac yn mynd i’r afael â’r effeithiau niweidiol y gall meddyginiaethau iechyd meddwl eu cael ar gleifion, gan atal pobl rhag cael eu gadael mewn poen, wedi’u tawelyddu, wedi’u drysu, yn ymosodol neu allan o wynt.

System monitro strwythuredig yw ADRe, sy’n helpu nyrsys neu ofalwyr i wirio cleifion ar gyfer sgîl-effeithiau niweidiol eu meddyginiaethau a adnabyddir. Mae ADRe’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae wedi bod yn effeithiol mewn treialon:gwnaeth leihau presgripsiynau meddyginiaethau iechyd meddwl a gwella symptomau, gan gynnwys poen.

Mae ADRe’n hefyd mae’n atal problemau rhag gwaethygu fel bod angen aros yn yr ysbyty. Mae'n helpu'r rhan fwyaf y cleifion sy’n ei ddefnyddio, rhai yn fwy nag eraill.

Gwnaeth yr Athro Sue Jordan arwain yr astudiaethau, a ddangosodd sut y darganfuwyd sgîl-effeithiau niweidiol yn fwy effeithiol gan nyrsys a gofalwyr pan ddefnyddiwyd ADRe ochr yn ochr â gweinyddu meddyginiaethau iechyd meddwl.Cynhaliwyd astudiaethau mewn cartrefi gofal ac ar draws timau iechyd meddwl cymunedol

Yr effaith

Hyd yn hyn, ADRe yw’r unig gyfarpar sy’n dod â chofnod llawn o broblemau cleifion i adolygiadau meddyginiaeth gan fferyllwyr neu bresgripsiynwyr.Dangosodd yr astudiaethau fod ADRe

  • Wedi atal adweithiau difrifol gan gyffuriau mewn oddeutu 10% o gleifion
  • Wedi arwain at ansawdd gofal well
  • Wedi arwain at gydnabyddiaeth well o boen, bod allan o wynt, tawelyddu, heintio, problemau golwg, bwydo gwael a rhwymedd, a gofal geneuol gwell.
  • Wedi arwain at lai o bresgripsiynau meddyginiaethau iechyd meddwl:roedd preswylwyr yn fwy ‘bywiog’, yn llai cynhyrfus, neu’n llai ymosodol pan newidiwyd y gofal er mwyn lleihau meddyginiaethau gwrthseicotig
  • Mynd i’r afael ag Adroddiad Andrews, Comisiynydd Pobl Hŷn (2014, 2018), Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018)

Mae’n dangos:

  • urddas mewn gofal (NMC 2015 t.4);
  • llywodraethu clinigol = gwella’n barhaus + diogelu safonau uchel.

Arbedion ariannol posib:

  • £2000 = amcangyfrif o gost triniaeth ADR difrifol;
  • amser y nyrsys neu’r cynorthwywyr i weinyddu’r Proffil:10-25 munud, ~£20.

Bodloni 3edd Her Diogelwch Cleifion Fyd-eang Sefydliad:

  • weithiau mae meddyginiaethau’n achosi niwed difrifol os ... cânt eu monitro’n annigonol;
  • yn annerch Adroddiad Andrews, comisiynydd Pobl Hŷn (2014, 2018), Defnydd o Ant-siehoteg mewn Cartrefi Gofal (LlC 2018).
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG for health showing a heart
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
health innovation