Deall sut mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael gofal brys

Rydym yn deall sut mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael mynediad at ofal brys

Rydym yn deall sut mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael mynediad at ofal brys

Yr Her

Mae anafiadau damweiniol yn broblem iechyd cyhoeddus fawr a all arwain at anableddau hirdymor neu hyd yn oed farwolaeth. Ceir gwahaniaethau yn y ffordd y mae pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig sy'n byw yn y DU yn cysylltu â gwasanaethau brys, fel y gwasanaeth ambiwlans neu adrannau brys, os bydd anaf ganddynt, o'u cymharu â phobl groenwyn Prydain. Efallai na fyddant yn cael yr un profiad o ofal neu adferiad â phobl groenwyn Prydain.

Y Dull

Yn yr astudiaeth hon, nod Dr Ashra Khanom a'r tîm yw nodi'r gwahaniaethau yn y ffordd y mae pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, sydd ag anaf, yn cysylltu â'r gwasanaethau ambiwlans brys ac adrannau brys a'r hyn sy'n digwydd iddynt, o'u cymharu â phobl groenwyn Prydain. Mae'r tîm yn gweithio gyda phedwar ysbyty a phedwar gwasanaeth ambiwlans ar draws Lloegr a'r Alban i ddatgelu eu profiadau.

Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda phobl sy'n ceisio lloches a'r rhai sydd â statws ffoadur. Dosbarthwyd 2,000 o holiaduron ac mae cymorth i ymchwilwyr cymheiriaid wedi cael ei roi ar waith yn y pedwar rhanbarth i helpu pobl i gwblhau'r holiadur. Hefyd, cyfieithwyd yr holiadur i chwe iaith ac mae fersiynau ar-lein ar gael hefyd, drwy godau QR.

Ar hyn o bryd nid oes ymchwil yn y maes hwn yn y DU, felly mae'r gwaith yn hanfodol er mwyn nodi lle mae angen gwneud gwelliannau i helpu'r rhai y mae arnynt angen mynediad at ofal brys i gael y driniaeth orau.

Ariennir yr astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) - Ymchwil i Ddarparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSDR).

Yr Effaith

Bydd yr astudiaeth yn mynd i'r afael â'r bwlch tystiolaeth ac os nodir gwahaniaeth mewn gofal, bydd yn helpu llunwyr polisi i sicrhau bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael mynediad da at ofal brys am anafiadau. Mae'r partneriaid sy'n rhan o'r prosiect yn cynnwys; Prifysgol Lincoln, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Gwasanaeth Ambiwlans Arfordir De-ddwyrain Lloegr, Prifysgol Sheffield, Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaeth Ambiwlans Swydd Efrog, Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban a Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Canolbarth Lloegr.

Mae'r astudiaeth eisoes wedi nodi heriau y mae pobl sy'n ceisio lloches yn eu hwynebu a achoswyd gan ddryswch ynghylch statws mewnfudo. Roedd rhai cleifion yn wynebu taliadau am ofal pan nad oedd modd iddyn nhw dalu, felly roedd pobl yn osgoi cael gofal iechyd yn gyfan gwbl. Mae'r astudiaeth hefyd wedi dangos nad yw Adrannau Achosion Brys a'r gwasanaeth ambiwlans yn cofnodi ethnigrwydd, felly mae'n anodd gwneud ymchwil sy'n mynd i'r afael ag anghenion iechyd lleiafrifoedd ethnig yn y DU. Un argymhelliad gan yr astudiaeth fydd sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cofnodi ethnigrwydd yn y dyfodol.

Dr Ashra Khanom

Cwrdd â'r Arweinydd Ymchwil

Dr Ashra Khanom
Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.