Dod o hyd i ffyrdd anfewnwthiol o ganfod clefyd y galon

Rydyn ni’n dod o hyd i ffyrdd anfewnwthiol o ganfod clefyd y galon

Rydyn ni’n dod o hyd i ffyrdd anfewnwthiol o ganfod clefyd y galon

Yr Her

Clefyd coronaidd y galon (CHD) yw un o’r prif glefydau sy’n lladd yn y byd. Gall rhoi diagnosis cynnar a chost-effeithiol o CHD achub bywydau a lleihau effaith afiachusrwydd ar yr economi. Mae hyn yn enwedig o wir mewn gwledydd sy’n datblygu gan gynnwys India.

Y Dull

Rydym yn defnyddio dull cost-effeithiol amgen i’r mesuriad drud a mewnwthiol presennol drwy gydweithio (drwy gyllid GCRF) ag IIT Madras. Bydd y feddalwedd arfaethedig yn rhoi diagnosis yn gynt, yn fwy diogel ac yn fwy fforddiadwy na phrotocolau profi presennol.

Trwy adeiladu ar waith blaenorol gydag IIT Madras, a oedd yn cynnwys gweithdy i drafod y pwnc yn 2016, ymweliadau i ddechrau’r bartneriaeth gydweithredol yn 2017, a phenodi’r Athro Nithiarasu yn Ddirprwy Athro yn 2017, parhaodd tîm o Brifysgol Abertawe i ymweld a datblygu cysylltiadau ag IIT Madras.

Yr Effaith

Cyflwynwyd meddalwedd sylfaenol iawn yn llwyddiannus i gyfrifo’r gronfa llif ffracsiynol ar-lein gan ddefnyddio rhyngwyneb ar y we. Mae’r feddalwedd yn cael ei datblygu ac mae bron yn barod i’w phrofi; bydd ar gael i’w phrofi ar gyfer difrifoldeb clefyd y galon mewn modd cynaliadwy, cost-effeithiol ac anfewnwthiol.

Ar hyn o bryd, nid yw rhan fwyaf y boblogaeth mewn cenedlaethau sy’n datblygu’n gallu fforddio’r prawf cronfa llif ffracsiynol. Mae hyn yn golygu nad yw cleifion yn aml yn cael eu trin mewn modd amserol. Bydd y prawf sy’n cael ei ddatblygu yn fwy fforddiadwy a bydd yn galluogi mwy o gleifion i gael diagnosis. Oherwydd natur anfewnwthiol y prawf, ceir wared ar y niwed a achosir gan fesuriadau mewnwthiol.

Llun o feddalwedd newydd i ddiagnosio clefyd y galon

Gan ddefnyddio cyllid gan GCRF, nod y tîm yw parhau i weithio gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr ledled y byd i brofi a datblygu’r feddalwedd. Bydd y tîm hefyd yn cynnal ymchwil bellach ac yn rhannu’r canfyddiadau mewn cynadleddau yn India – gan gynnwys cynadleddau prif ffrwd er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gwaith a’r feddalwedd ymhlith ymchwilwyr yn India.

Cydnabyddiaeth: Dr Jason Carson, Cymrawd UKRI; Neeraj Kavan Chakshu; Myfyriwr PhD

Canolfan Ymchwil

Canolfan Zienkiewicz

Model o'r Bloodhound
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe