Deall dementia

YR HER

Er bod llawer o fathau o ddementia yn tueddu i gael eu deall a’u nodweddu'n bennaf gan newidiadau yn y cof, mae ymchwil yn dangos y gall dirywiad sylweddol hefyd ddigwydd yn y gweithrediad sy’n effeithio ar sylw, cyflymder prosesu gwybodaeth a phrosesu synhwyraidd a chanfyddiadol, trwy gydol proses y clefyd. Ar ben hynny, o siarad â llawer o bobl sy'n byw gyda dementia, rydym hefyd yn gwybod y gall rhai unigolion brofi newidiadau hefyd yn yr ardaloedd hynny o’r ymennydd nad ydynt yn ymwneud â’r cof, a gall effeithio ar eu harwyddion a'u symptomau, ymddygiad, rhyngweithio cymdeithasol, ansawdd bywyd, diagnosis, cefnogaeth ôl-ddiagnostig, ymyriadau a gofal. 

O ystyried hyn, mae gwaith yr Athro Andrea Tales a'i thîm o Brifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar ddeall yn well beth yw effeithiau nam gwybyddol fasgwlaidd (dementia) a chlefyd Alzheimer’s ar weithrediadau yn yr ymennydd nad ydynt yn ymwneud â'r cof.

DULL

Yn ogystal â defnyddio methodoleg ymchwil wrthrychol a mesur gweithrediad gan ddefnyddio technegau megis seicoffiseg, niwroddelweddu a phrofion niwrowybyddol, defnyddiodd yr Athro Tales a'i thîm fethodoleg ymchwil ansoddol er mwyn dal profiad bywyd unigolyn a disgrifiadau o newidiadau i weithrediadau ac ymddygiad ei ymennydd. Mae hyn yn hynod bwysig oherwydd, os caiff pobl y cyfle a'r math cywir o gwestiynau, gallan nhw fod yn fedrus iawn yn eu disgrifiad o newidiadau o'r fath, er efallai na fyddent yn defnyddio'r un derminoleg â gwyddonwyr.

Yn seiliedig ar dechnegau ymchwil ansoddol megis grwpiau ffocws, defnyddiodd y tîm o Brifysgol Abertawe dechnegau a dulliau lluosog i gynhyrchu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys:

  • Profion niwrowybyddol (profion pen a phapur, holiaduron a phrofion cyfrifiadurol ar sawl agwedd ar weithrediad gwybyddol)
  • Seicoffiseg: defnyddio profion cyfrifiadurol neu iPad sy'n archwilio'r ymateb ymddygiadol (amser ymateb / cyflymder prosesu gwybodaeth) i symbyliadau gweledol dros lawer o dreialon.
  • Olrhain llygaid (mesur symudiadau llygaid)
  • Pupillometry (mesur gweithrediad cannwyll llygad)
  • Electroenceffalograffi (EEG)
  • Magnetoenceffalograffi (MEG)
  • Niwroddelweddu (e.e. MRI)

Cyflawnwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr sefydledig, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a myfyrwyr PhD gan gydweithio’n helaeth yn genedlaethol a rhyngwladol a chael cyfranogiad ac ymgysylltiad sylweddol cleifion a’r cyhoedd gan oedolion hŷn ac oedolion hŷn sy'n byw gyda dementia. Cydweithiodd y tîm ag ymchwilwyr ym Malta, Sweden, y Ffindir, Tsiecia, Twrci, yr Emiradau Arabaidd Unedig, a'r Almaen gyda'r rhwydwaith yn ehangu'n barhaus. Mae cydweithwyr eraill yn cynnwys Prifysgol Malta (yr Athro Ian Thornton) a Phrifysgol Grenoble (Fabien Carreras, Myfyriwr PhD menter Abertawe/Grenoble).

Ariannwyd a/neu cefnogwyd yr ymchwil gan Elusen Ymchwil BRACE-Dementia, UKRI, HCRW (trwy gyllid ar gyfer CADR), ESRC, Cymdeithas Alzheimer’s a Phrifysgol Abertawe.

Effaith

Mae ein hymchwil, yn enwedig trwy seicoffiseg, wedi datgelu bod pobl hŷn gydag a heb ddementia, yn amrywiol iawn o ran gweithrediad yr ymennydd. Ni fydd pawb â dementia yn dangos yr un patrwm o newidiadau ymenyddol nad ydynt yn ymwneud â’r cof ac o’r herwydd ni fyddant yn arddangos yr un arwyddion a symptomau, ac ni fydd pawb sy'n byw heb ddementia yn dangos gweithrediad cyflawn. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn tanlinellu’r galw am ddull personol, nid yn unig ar gyfer ymchwil dementia ond ar gyfer diagnosis, cefnogaeth, gofal, ymyriadau a thriniaeth, cydnerthedd, annibyniaeth a dealltwriaeth pawb o ddementia. Bydd yr wybodaeth hon yn ei thro yn hwyluso’r gallu i leihau ac atal yr anghenion hynny na chânt eu diwallu yn ein cymdeithas.

Bydd yr ymchwil hwn yn cael effaith ar gymdeithas gyfan. Bydd gennym well dealltwriaeth o ddementia (yn enwedig o ran newidiadau heblaw am y cof) i ymchwilwyr, clinigwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae'n effeithio'n arbennig ar y rhai sy'n byw gyda dementia a chamau cyn dementia. Ein cam nesaf yw gyrru’r wybodaeth i lefel polisi.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod cynaliadwy y CU - Iechyd
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe