Beichiogrwydd Pobl Awtistig, Genedigaeth a'r Tu Hwnt

Rydym yn cefnogi beichiogrwydd, genedigaeth a'r tu hwnt i bobl awtistig

Rydym yn cefnogi beichiogrwydd, genedigaeth a'r tu hwnt i bobl awtistig

Beichiogrwydd pobl awtistig, genedigaeth a'r tu hwnt yr atebion i'ch cwestiynau - gwyliwch y fideos

Yr Her

Ar hyn o bryd, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am brofiadau pobl awtistig yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ôl-enedigol. Mae dealltwriaeth gyfyngedig hefyd ymhlith ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol am anghenion pobl awtistig yn ystod y cyfnod mamolaeth. Mae'r anghenion hyn yn cynnwys sensitifrwydd synhwyraidd uwch, arddulliau cyfathrebu gwahanol a gwahaniaethau o ran interosepiad.

Mae “Beichiogrwydd Pobl Awtistig, Genedigaeth a’r Tu Hwnt: Atebion i’ch Cwestiynau " yn brosiect ar sail fideos sydd â'r nod o ledaenu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch profiadau pobl awtistig o feichiogrwydd.

Cafodd yr holl gynnwys ei gynllunio a'i greu gan bobl awtistig, gan gynnwys ymarferwyr mamolaeth proffesiynol a phrofiadau rhieni. Mae'n ceisio ateb cwestiynau - gan gynnwys y rhai nad oedd pobl yn gwybod eu bod ganddynt - ar gyfer rhieni awtistig a'r rhai sy'n eu cefnogi. Ein gobaith yw y bydd yr adnoddau'n rhoi i rieni awtistig yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt, er enghraifft i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, ond hefyd i roi iddynt ymdeimlad nad ydynt ar eu pennau eu hunain yn eu profiadau.

Y Dull

Mae 15 maes pwnc yn cael eu trafod yn y pedair rhestr chwarae allweddol isod. Ceir cyfeiriadau at unrhyw adnoddau ychwanegol a grybwyllir yn y fideos yn y disgrifiadau o'r fideos ar YouTube. Ceir rhybuddion am gynnwys a sbardun hefyd lle bo'n berthnasol yn y disgrifiadau o'r fideos.

Roedd y prosiect yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Autistic Parents UK (APUK) ac Autistic UK. Cafodd ei ariannu gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (rhan o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru). Bu Dr Aimee Grant yn cydweithredu ag Autistic UK ac Autistic Parents UK i ofyn pa gwestiynau a oedd gan rieni awtistig yn ystod beichiogrwydd. Yn ystod 2022, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda sefydliadau cydweithredol i drafod pynciau pwysig i ymdrin â nhw, pa ymarferwyr proffesiynol ddylai ymdrin â'r pynciau hyn a'r pwyntiau allweddol i'w cynnwys ym mhob fideo.

Cafodd y fideos eu recordio gan rieni awtistig ac ymarferwyr proffesiynol awtistig a'u coladu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Yna cafodd y fideos eu golygu, gosodwyd is-deitlau arnynt a chawsant eu lanlwytho i sianel YouTube y prosiect mewn rhestrau chwarae.

Autistic Pregnancy, Birth and Beyond logo

Yr Effaith

Cafodd 114 o fideos eu lanlwytho i YouTube, yn amrywio o ran hyd o ddwy funud i dros 10 munud, gan ymdrin â phynciau megis: apwyntiadau, cyfathrebu â theulu, cymheiriaid ac eraill, profiadau o boen a chyrff yn newid, amgylcheddau genedigaeth, methu ymdopi a bwydo ar y fron. Mae tua hanner ohonynt gan ymarferwyr proffesiynol awtistig ym maes mamolaeth, gan y Grŵp Ymchwil Mamolaeth ac Awtistiaeth (MARG) ac Autistic Doctors International yn ogystal ag APUK. Mae'r ymarferwyr proffesiynol a gyfrannodd yn cynnwys bydwragedd, athrawon cynenedigol, anesthetydd, gweithiwr cymorth mamolaeth, cynghorydd llaetha a gweithiwr cymdeithasol. Er bod yr holl ymarferwyr proffesiynol yn hanu o'r DU, bydd llawer o'r cyngor yn berthnasol i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

Mae'r holl gynnwys ar gael yn Saesneg gydag isdeitlau Saesneg ar ein sianel YouTube: @AutismMenstruationToMenopause

Mae'r fideos hefyd ar gael gydag isdeitlau Cymraeg ar ein sianel Cymraeg ar YouTube: @AwtistiaethM2M

Dr Aimee Grant

Cwrdd â'r Arweinydd Ymchwil

Dr Aimee Grant
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.