Pennod 8: 'How can we improve healthcare for autistic people?'

Yn y bennod hon

Mae problemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn effeithio’n waeth ar bobl awtistig na phobl nad ydynt yn awtistig. Mae hyn yn cynnwys marw rhwng 16 a 30 o flynyddoedd yn gynnar. Mae naratifau sy'n canolbwyntio ar ddiffygion pobl awtistig, gwahaniaethu yn eu herbyn a phroblemau sylweddol o ran derbyn gofal iechyd i gyd yn cyfrannu at hyn. 

Yn y bennod hon, mae Dr Aimee Grant yn trafod sut mae eu hymchwil yn edrych i deall profiadau pobl awtistig a'u hanghenion gofal iechyd er mwyn lleihau a dileu anghydraddoldebau iechyd.

Am ein harbenigwr

Mae Dr Aimee Grant, academydd awtistig, ar y cyd ag ymchwilwyr yn LIFT (Centre for Lactation, Infant Feeding and Translational Research), Autistic UK a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru, wedi bod yn gweithio gyda phobl awtistig i ddeall y gwahaniaethau ym mhrofiadau gofal iechyd pobl awtistig, gan gynnwys mewn perthynas â beichiogrwydd, colli beichiogrwydd a bwydo ar y fron.

Drwy ei chymrodoriaeth gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ‘Autism from menstruation to menopause’, bydd hi'n gweithio gyda phobl awtistig am wyth mlynedd i ddeall eu bywydau beunyddiol a'u hanghenion o ran iechyd atgenhedlol.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.