Pennod 9: 'The impact of the menstrual cycle in sport'

Yn y bennod hon

Mae cylchred y misglwyf rheolaidd yn hynod bwysig ac yn arwydd hollbwysig o iechyd a lles da'n gyffredinol. Serch hynny, mae menywod, merched ac unigolion sy'n cael mislif yn aml yn gorfod brwydro yn erbyn symptomau gwanychol sy'n gysylltiedig â'r mislif, megis blinder, poenau mislifol, hwyliau amrywiol, tarfu ar gwsg a phennau tost. Mae rheoli'r symptomau hyn yn peri rhwystr sylweddol i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol mewn ysgolion a gall gael effaith negyddol ar berfformiad athletwyr elît.

Yn y bennod hon, mae Dr Natalie Brown yn trafod canfyddiadau a phrofiadau o gylchred y misglwyf mewn chwaraeon elît ac mewn ysgolion yn y DU, a sut gall gweithgarwch a maethu da reoli symptomau misglwyfol.

Am ein harbenigwr

Mae Dr Natalie Brown yn Swyddog Ymchwil gyda Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigwr ar athletwyr benywaidd ac effaith cylchred y mislif ar gymryd rhan mewn chwaraeon a pherfformiad.

Mae gan Dr Brown gefndir mewn ffisioleg ac ymchwil sy'n ymwneud ag ymateb hormonaidd athletwyr. Hi hefyd yw sylfaenydd Optimal Period sy'n ceisio hyrwyddo canfyddiad cadarnhaol o fisglwyf ac yn rhoi gwybodaeth am sut i gael cylchred y mislif iach a goresgyn symptomau sy'n ymwneud â'r misglwyf. Mae ei gwaith ymchwil yn gweithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol yng Nghymru, ynghyd ag ysgolion i wella darpariaeth addysg misglwyfol.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.