Beth yw dyfodol Deallusrwydd Artiffisial a Chat GPT? A all technoleg ddigidol helpu i atal aildroseddu? A allwn greu systemau sy'n ddiogel ac yn wydn yn wyneb bygythiadau diogelwch? Bydd y cwestiynau hyn a llawer o gwestiynau eraill yn cael eu hateb yng nghyfres 3 o "Archwilio Problemau Byd-eang" lle mae academyddion o Brifysgol Abertawe yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.

Yn y drydedd gyfres hon sy'n para am 11 bennod bydd academyddion yn archwilio pynciau amrywiol a phwysig megis amddiffyn ein hunain rhag cemegau sy'n achosi canser, gwella gofal iechyd i bobl awtistig ac ailfeddwl perthynas y gymdeithas â cheir. Hefyd yn y gyfres newydd bydd Dr Sam Blaxland yn dychwelyd, a fydd yn tywys gwrandawyr dros y misoedd nesaf drwy benodau sy'n cynnwys academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau,

Merch yn cerdded mewn safle tirlenwi

'Turning waste into wonder: Creative solutions for plastic pollution'

3 Gorffennaf 2023
Tymor 3, Pennod 1

Bydd Dr Alvin Orbaek White yn datgelu ei weledigaeth chwyldroadol am dechnoleg gynaliadwy o wastraff plastig ac yn esbonio sut, o geblau data i gymwysiadau ynni, mae nanodechnoleg yn trawsnewid y byd.

Gwrandewch ar bennod 1
Cell canser

'Can we protect ourselves from cancer causing chemicals?'

17 Gorffennaf 2023
Tymor 3, Pennod 2

Mae’r Athro Gareth Jenkins yn trafod sut gall DNA gael ei fwtadu a sut gall y mwtaniadau hyn achosi canser, a sut gall y cemegau o’n cwmpas, ein dewisiadau ffordd o fyw a’n harferion gynyddu neu ostwng y tebygolrwydd y bydd ein DNA yn mwtadu ac yn datblygu i fod yn ganser.

Gwrandewch ar bennod 2
Person ifanc yn gwisgo hwdi

'Can intervention prevent suicide in young people?'

31 Gorffennaf 2023
Tymor 3, Pennod 3

Mae'r Athro Ann John yn archwilio atal hunanladdiad a hunan-niwed a sut y gall data dienw helpu i ddylunio ymyriadau a datblygu polisïau er mwyn llywio a hyfforddi gweithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad â’r rhai hynny sydd mewn perygl o hunanladd.

Gwrandewch ar bennod 3
Beiciwr yn beicio trwy draffig

'Traffic, transport and our behaviour'

14 Awst 2023
Tymor 3, Pennod 4

Mae’r Athro Ian Walker yn archwilio ffenomen 'normadedd gyrru' (motor normativity) ac yn trafod ymddygiadau sy’n cael eu sbarduno’n awtomatig ac yn anymwybodol gan yr amgylchedd y mae unigolyn yn canfod ei hun ynddo, yn benodol yng nghyd-destun arferion gyrru.

Gwrandewch ar bennod 4
CPU cyfrifiadur

'Addressing cybersecurity risks of self driving vehicles'

29 Awst 2023
Tymor 3, Pennod 5

Mae'r Athro Siraj Shaikh yn trafod gwydnwch systemau seiber-ffisegol sy'n defnyddio cydrannau digidol, megis cerbydau awtonomaidd, a'u gallu i weithio'n effeithiol ac yn ddiogel.

Gwrandewch ar bennod 5
Person mewn gefynnau tu ôl i fariau

'Using digital technology to support people in the criminal justice system'

11 Medi 2023
Tymor 3, Pennod 6

Mae Dr Gemma Morgan yn archwilio’r problemau mae pobl yn eu hwynebu wrth adael y carchar a sut gall ffyrdd newydd o fanteisio ar dechnoleg ddigidol gefnogi'r rhai sy'n gadael y carchar neu sydd ar brawf i roi’r gorau i droseddu a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Gwrandewch ar bennod 6
AI

'Generative AI: what is it and what are the implications for society?'

25 Medi 2023
Tymor 3, Pennod 7

Yn y bennod hon, mae'r Athro Yogesh Dwivedi a Dr Laurie Hughes yn trafod y manteision, yr heriau a'r risgiau posib sy'n gysylltiedig â defnyddio platfformau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn addysg a goblygiadau gymdeithas ehangach.

Gwrandewch ar bennod 7
Gwraig feichiog

'How can we improve healthcare for autistic people'

9 Hydref 2023
Tymor 3, Pennod 8

Mae Dr Aimee Grant yn trafod sut mae eu hymchwil yn edrych i deall profiadau pobl awtistig a'u hanghenion gofal iechyd er mwyn lleihau a dileu anghydraddoldebau iechyd.

Gwrandewch ar bennod 8
Merched yn chwarae pêl-droed

'The impact of the menstrual cycle in sport'

23 Hydref 2023
Tymor 3, Pennod 9

Mae Dr Natalie Brown yn trafod canfyddiadau a phrofiadau o gylchred y misglwyf mewn chwaraeon elît ac mewn ysgolion yn y DU, a sut gall gweithgarwch a maethu da reoli symptomau misglwyfol.

Gwrandewch ar bennod 9
Merch yn darllen llyfr wedi'i amgylchynu â delweddau gofod

Ffuglen Wyddonol a'i lle yn yr iaith Gymraeg

13 Tachwedd 2023
Tymor 3, Pennod 10

Mae Dr Miriam Elin Jones yn trafod o ble ddaeth ei diddordeb mewn ffuglen wyddonol, a chyflwyno sut y gall y genre archwilio nifer o bryderon perthnasol i ddiwylliant lleiafrifol fel y diwylliant Cymraeg, drwy bortreadu tranc iaith a pherthynas iaith a thechnoleg.

Gwrandewch ar bennod 10
Llaw gyda symbolau amgylcheddol

'Global to Local: the people's place in tackling climate change'

27 Tachwedd 2023
Tymor 3, Pennod 11

Mae’r Athro Karen Morrow a Dr Victoria Jenkins yn trafod yr hinsawdd fyd-eang a llywodraethu amgylcheddol a’r hyn y gall pobl a sefydliadau ei wneud i leihau ac addasu i ganlyniadau newid yn yr hinsawdd.

 

Gwrandewch ar bennod 11