Pennod 2: 'Can we protect ourselves from cancer causing chemicals?'

Yn y bennod hon

Canser yw un o'r prif achosion o farwolaeth yn fyd-eang, gan arwain at bron 10 miliwn o farwolaethau yn 2020. Mae ffigurau'n awgrymu y bydd 1 o bob 2 ohonom yn cael canser yn ein bywydau. Er gwaethaf yr ystadegau hyn, mae mesurau y gallwn ni eu cymryd i amddiffyn ein hunain drwy leihau'r cysylltiad â chemegion carsinogenig sy'n achosi newidiadau yn ein DNA.

Yn y bennod hon, sy'n hynod ddiddorol ac sy'n lleddfu pryder, bydd yr Athro Gareth Jenkins, sy'n Athro Gwyddorau Biofeddygol ym mhrifysgol Abertawe, ac yn arbenigwr blaenllaw yn y maes hwn, yn trafod sut y gellir mwtadu DNA a sut mae'r mwtadiadau hyn yn achosi canser. Mae Gareth yn datgelu sut mae'r cemegau o'n cwmpas, ein dewisiadau o ran ffordd o fyw a'n harferion yn gallu cynyddu neu leihau'r tebygrwydd y bydd ein DNA yn mwtadu ac yn datblygu i fod yn ganser. Byddwn ni hefyd yn dysgu am y datblygiadau enfawr mewn technolegau diagnosio canser, megis biopsïau hylif a nodi biofarcwyr a fydd yn amlygu cyflyrau sy'n datblygu cyn canser. Darganfyddwch sut mae ymchwil Gareth yn gwthio ffiniau er mwyn ein galluogi i nodi canser yn gynnar – sef Grael Sanctaidd ymchwil i ganser er mwyn cael canlyniadau gwell i gleifion.

Am ein harbenigwr

Mae'r Athro Gareth Jenkins yn Athro Carsinogenesis Moleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae'n arbenigwr mewn ymchwil mwtadu DNA.

Mae ei waith yn ymwneud yn bennaf â'r maes "Tocsicoleg Eneteg" gan astudio peryglon a risgiau o ganlyniad i ddod i gysylltiad â chynhyrchion newydd (cyffuriau, bwydydd, cemegolion, nanoddeunyddiau etc).Mae ei grŵp ymchwil yn Abertawe'n archwilio'r mecanweithiau sy'n sail i fwtagenesis a charsinogenesis DNA ac mae wedi dylunio ymagweddau profi newydd ar sail celloedd ar gyfer cyfryngau mwtagenig i leihau nifer yr anifeiliaid a ddefnyddir mewn profion diogelwch.Am 20 mlynedd, mae Gareth hefyd wedi ymchwilio i fodel adenocarsinoma esoffagws/esoffagaidd Barrett i ddeall yn well sut mae canser yn dechrau a rôl mwtadiadau celloedd gwaed fel biofarcwyr clefydau.

Yr Athro Jenkins yw Cadeirydd Pwyllgor Mwtagenedd Llywodraeth y DU (COM) a bu'n aelod o COM rhwng 2009 a 2019.Mae’n Uwch-olygydd ar gyfer y cyfnodolyn “Mutagenesis” ac mae'n Llywydd Cymdeithas Mwtagenau Amgylcheddol y DU (UKEMS) a Mudiad Rhyngwladol Cymdeithasau Amgylcheddol a Genomeg (IAEMGS). Mae Gareth hefyd yn Ddeon Cysylltiol Ymchwil y Gyfadran Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.