Yn y bennod hon

Rydym yn gwybod o ymchwil i gludiant bod y rhan fwyaf o deithiau yn y DU am lai na phum milltir ag un person yn unig yn y cerbyd, felly sut gallwn annog pobl i ddefnyddio ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio? Yn y bennod podlediad hon, mae Ian Walker, Athro Seicoleg Amgylcheddol, yn archwilio ffenomenon 'normadedd gyrru' (motor normativity). Dyma'r syniad sydd gan y rhan fwyaf o bobl bod ein hymddygiad cyffredinol a'n harferion o ran cludiant yn gywir. Pan fydd unigolion neu grwpiau'n ceisio newid pethau, er enghraifft, drwy annog pobl i yrru'n llai neu newid eu ffordd o deithio i ddulliau cludiant mwy egnïol a glanach, maent yn aml yn cael ymateb sy'n rhyfeddol o elyniaethus.

Mae ymchwil yr Athro Walker yn edrych ar ymddygiadau sy'n cael eu sbarduno’n awtomatig ac yn ddiymwybod gan yr amgylchedd mae unigolyn ynddo, yn benodol yng nghyd-destun arferion gyrru. Mae ei ddiddordeb yn y maes astudio hwn yn deillio o'i brofiad fel beiciwr.

Am ein harbenigwr

Seicolegydd amgylcheddol yw’r Athro Ian Walker sy'n arbenigo mewn seicoleg ac ymddygiad ym meysydd trafnidiaeth, ynni a dŵr. Mae'n arbenigo'n arbennig mewn gweithio ar ddod ag anghenion defnyddwyr i mewn i brosiectau amlddisgyblaethol gyda pheirianwyr a phenseiri.

Yr Athro Walker yw'r arweinydd seicoleg yr efelychwyr mudiant adeiladu VSimulators ac mae wedi gweithio'n helaeth ar arddangosiadau ynni a dŵr yn y cartref sy'n ystyried dealltwriaeth y defnyddiwr terfynol. Mae ganddo hefyd ddiddordeb hirsefydlog mewn dewisiadau ac ymddygiadau ynghylch teithio llesol cynaliadwy.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.