Pennod 5: 'Addressing cybersecurity risks of self driving vehicles'

Yn y bennod hon

Mae gan gerbydau sy'n gallu gyrru eu hunain at ddibenion cludo teithwyr a llwythi y potensial i weddnewid cludiant cyhoeddus a theithio, a bydd y buddion niferus yn cynnwys lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sy'n deillio o wallau dynol, ynghyd â gwella cysylltedd ardaloedd anghysbell â nwyddau a gwasanaethau gofal iechyd. Serch hynny, bydd meithrin ffydd y cyhoedd mewn systemau awtonomaidd a goresgyn y rhagdybiaeth o risg yn heriol.

Yn y bennod hon, mewn sgwrs â Dr Sam Blaxland, mae Siraj Shaikh, Athro Diogelwch Systemau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn trafod datblygiad a dyfodol technoleg cerbydau sy'n gallu gyrru eu hunain, y risgiau a'r buddion, a sut gall hyrwyddo safonau'r diwydiant helpu i feithrin ffydd y cyhoedd mewn technolegau awtonomaidd cymhleth.

Am ein harbenigwr

Mae Siraj Shaikh yn Athro Diogelwch Systemau ym Mhrifysgol Abertawe (y DU). Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng seiberddiogelwch, peirianneg systemau a chyfrifiadureg, gan fynd i'r afael â diogelwch systemau seiber-ffisegol ar gyfer systemau modurol a thrafnidiaeth.

Yn ogystal, yr Athro Shaikh yw Cyd-sefydlydd a Phrif Wyddonydd CyberOwl, sy'n monitro diogelwch systemau seiber-ffisegol i'r sector morol. Mae hefyd yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Nebrija yn Sbaen ac mae’n cyflwyno podlediad o'r enw "Higher Purpose" ar Unity FM yn Birmingham. Nod y podlediad yw meithrin trafodaethau am y problemau a'r heriau y mae cymunedau lleiafrifol yn eu hwynebu ym maes addysg uwch.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.