Yr Athro Siraj Shaikh

Athro mewn Diogelwch Systemau, Computer Science

Cyfeiriad ebost

413
Pedwerydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Athro mewn Diogelwch Systemau ym Mhrifysgol Abertawe (y DU) yw Siraj Shaikh. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys croestoriad rhwng seiberddiogelwch, peirianneg systemau a chyfrifiadureg yn mynd i'r afael â diogelwch systemau seiber-ffisegol ar gyfer systemau moduro a thrafnidiaeth. Mae'n Gyd-sefydlydd ac yn Brif Wyddonydd CyberOwl, sy'n ymroddedig i ddadansoddi risg a monitro diogelwch yn y sector morwrol.

Ar hyn o bryd, mae Siraj hefyd yn Athro Ymweld gyda'r Grŵp Ymchwil ar Ddiogelwch, Rheoli Risgiau a Gwrthdaro (SEGERICO) ym Mhrifysgol Nebrija (Sbaen).

Cyn hynny, roedd ganddo Gymrodoriaeth Diwydiant yr Academi Peirianneg Frenhinol a gynhaliwyd gan HORIBA MIRA (2015-2016). Cafodd ei waith ymchwil ei ariannu gan yr EPSRC, yr ESRC, Lloyds Register Foundation (LRF), DSTL, y British Council a’r Academi Peirianneg Frenhinol (RAEng).

Mae Siraj wedi bod yn rhan o waith ymchwil, datblygu a gwerthuso systemau diogelwch gwasgaredig ar raddfa fawr am dros 22 o flynyddoedd. Roedd ei ymchwil ddoethurol ac ôl-ddoethurol yn cynnwys dylunio a dilysu systemau diogelwch a systemau sy’n hanfodol er mwyn diogelwch. Mae Siraj yn ddiweddar wedi bod yn gyd-awdur llyfr o’r enw Formal Methods for Software Engineering Languages, Methods, Application Domains a gyhoedddwyd gan Springer (2022).