Pennod 7: 'Generative AI: what is it and what are the implications for society?'

Yn y bennod hon

Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn gangen o ddeallusrwydd artiffisial sy'n defnyddio algorithmau dysgu dwfn a hyfforddwyd ar gronfeydd data mawr i greu cynnwys megis testun, lluniau, fideos a cherddoriaeth. Mae ChatGPT yn un enghraifft yn unig o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol a all greu ymatebion tebyg i'r hyn a geir gan bobl i awgrymiadau testun a gellir ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion megis sgwrsfotiaid, cyfieithu ieithoedd a chreu cynnwys. Wrth i'r technolegau hyn barhau i ddatblygu, mae ganddynt y potensial i weddnewid y ffordd rydym yn rhyngweithio â pheiriannau a'n gilydd. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r goblygiadau moesegol posib a sicrhau bod y technolegau hyn yn cael eu defnyddio er budd pawb.

Yn y bennod hon, mae'r Athro Yogesh Dwivedi a Dr Laurie Hughes yn trafod y manteision, yr heriau a'r risgiau posib sy'n gysylltiedig â defnyddio platfformau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol megis ChatGPT mewn addysg a goblygiadau posib deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i unigolion, cyrff a sefydliadau yn y gymdeithas ehangach. Mae ymchwil Yogesh yn archwilio systemau gwybodaeth a marchnata sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â'r ffordd y mae defnyddwyr yn eu mabwysiadu ac arloesiadau digidol newydd. Mae Laurie yn canolbwyntio ar effaith deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan gynnwys ChatGPT.

Am ein harbenigwr

Mae Yogesh K. Dwivedi yn Athro Marchnata Digidol ac Arloesi ac yn Gyfarwyddwr Sefydlu'r Grŵp Ymchwil Dyfodol Digidol ar gyfer Busnes a Chymdeithas Cynaliadwy yn yr Ysgol Reolaeth. Yn ogystal, mae'n dal Cadair Athro Ymchwil Anrhydeddus yn Sefydliad Rheoli Busnes Symbiosis (SIBM), Pune, India. Ar hyn o bryd, yr Athro Dwivedi yw Prif Olygydd yr International Journal of Information Management hefyd.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymdrin â'r rhyngwyneb rhwng systemau gwybodaeth a marchnata, gan ganolbwyntio ar ledaenu arloesiadau digidol newydd a'u mabwysiadu gan ddefnyddwyr, llywodraeth ddigidol, a marchnata ar ffurf ddigidol a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig yng nghyd-destun marchnadoedd newydd.

Dr Laurie Hughes

Dr Laurie Hughes

Mae Dr Laurie Hughes gynt yn Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth. Cwblhaodd ei PhD mewn Systemau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hefyd yn meddu ar MSc mewn Cyfrifiadureg a BEng mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol. Mae wedi addysgu amrywiaeth o bynciau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig hyd at MBA, gan gynnwys Egwyddorion a Chysyniadau Deallusrwydd Artiffisial, Astudiaethau Achos Deallusrwydd Artiffisial, Rheoli Prosiectau a Dadansoddeg Fusnes.

Mae diddordebau ymchwil Dr Hughes yn amrywiol ond yn bennaf maent yn cwmpasu thema trawsnewid technolegol neu ddiwydiannol sy'n cynnwys Deallusrwydd Artiffisial, Diwydiant 4.0, Methiant Prosiectau Systemau Gwybodaeth, Rheoli Cadwyni Cyflenwi a Marchnata Digidol. Mae hefyd wedi datblygu arbenigedd mewn dulliau deongliadol megis rheoli diogelwch gwybodaeth (ISM) a'r broses hierarchaeth ddadansoddol (AHP) drwy ei ymchwil.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.